Mae rheolwr tîm pêl-droed Wrecsam, Dean Keates wedi dweud ei fod e’n siomedig nad oedd ei dîm wedi manteisio ar gyfleoedd i sgorio ddoe, wrth iddyn nhw golli o 1-0 yn erbyn Macclesfield ar y Cae Ras.

Daeth gôl y Saeson ar ôl 12 munud drwy Noe Baba o bell.

Daeth cyfle euraid i unioni’r sgôr yn yr ail hanner wrth i Paul Rutherford benio’r bêl dros y trawst, ac fe benderfynodd y dyfarnwr beidio â rhoi cic o’r smotyn iddyn nhw’n hwyr yn y gêm.

Rhwydodd Tyrone Marsh hefyd, ond roedd e’n camsefyll.

‘Ddim wedi manteisio’

Dywedodd Dean Keates wrth BBC Radio Wales: “Nid dyna’r canlyniad roedden ni ei eisiau.

“Ond dw i’n meddwl ein bod ni dipyn gwell yn yr ail hanner, gan chwarae ar y droed flaen ac fe wnaethon ni eu rhoi nhw dan gryn dipyn o bwysau.

“Roedden ni gartre’ ac roedden ni am greu cyfleoedd; wnaethon ni ddim manteisio ar yr ychydig rai gawson ni…”