Llwyddodd Shawn McClousky i achub pwynt i dîm pêl-droed Casnewydd ar ddiwrnod cynta’r tymor yn Stevenage ddoe.

Gorffennodd hi’n gyfartal 3-3 yn y pen draw.

Aeth Stevenage ar y blaen drwy Tom Pett yn yr hanner cyntaf cyn i Frank Nouble unioni’r sgôr ar ôl 55 munud.

Y tîm cartref aeth ar y blaen nesaf, a hynny drwy gic o’r smotyn gan Dale Gorman, ac fe lwyddon nhw i ymestyn eu mantais drwy Danny Newton.

Ond tarodd Casnewydd yn ôl gyda dwy gôl – y gyntaf gan Mickey Demetriou cyn i Shawn McClousky sicrhau’r pwynt bedair munud i mewn i’r amser a ganiateir am anafiadau.