Mae rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock wedi canmol yr ymosodwr Kenneth Zohore ar ôl i’w gôl helpu’r tîm i guro Burton oddi cartref o 1-0 brynhawn ddoe.

Daeth y gôl fuddugol ar ôl 86 o funudau, a hynny gan brif sgoriwr yr Adar Gleision y tymor diwethaf, wrth iddo fe ergydio i waelod y gôl.

Dywedodd Neil Warnock: “Dyna gewch chi gyda Ken Zohore. Nid dim ond y gôl wnaeth e ei sgorio heddiw.

“Allai e ddim bod wedi credu pan ddaeth e i mewn 12 mis yn ôl y byddai’n gweithio mor galed ag y gwnaeth e heddiw oherwydd roedd e’n mynd drwy’r mosiwns.

“Mae e’n sicr yn mynd i fod yn chwaraewr da.”

‘Mynd am ddyrchafiad’

Ar ôl y gêm, roedd rheolwr Burton, Nigel Clough yn llawn canmoliaeth i’r tîm y mae e wedi dweud y byddan nhw’n ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

“Fe wnaethon nhw ein rhoi ni dan gryn bwysau yn yr ail hanner.

“Wnaethon nhw roi tipyn o beli i mewn i’r cwrt ac fe gymerodd gôl wych i’n curo ni yn y pen draw.

“Allwch chi ddim gwneud llawer pan fo rhywun yn ei tharo hi i’r gornel o 20 llath.”