Fe fydd tîm pêl-droed Casnewydd yn dechrau eu tymor yn yr Ail Adran gyda gêm oddi cartref yn Stevenage heddiw (3 o’r gloch).

Mae disgwyl i’r ymosodwyr Frank Nouble a Shawn McCoulsky, yr asgellwr Lamar Reynolds a’r amddiffynnwr Ben White chwarae ar ôl symud i Gasnewydd dros yr haf.

Mae Ben White ar fenthyg o Brighton, sydd wedi ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Dydy Casnewydd ddim yn gallu chwarae ar gae Rodney Parade am y tro wrth i’r cae gael ei adnewyddu, ac felly bydd rhaid iddyn nhw deithio ar gyfer eu tair gêm gyntaf y tymor hwn.

Mae David Pipe a Robbie Willmott wedi dychwelyd i Gasnewydd.

Dydy’r amddiffynnwr Kevin Lokko ddim ar gael i Stevenage gan ei fod e wedi symud i Dagenham ar fenthyg, ond fe allai Terence Vancooten a Chris Whelpdale ddechrau’r gêm i’w clwb newydd.