Fe fydd tîm pêl-droed Caerdydd yn teithio i Burton heddiw ar gyfer gêm gynta’r tymor yn y Bencampwriaeth (3 o’r gloch).

Ond byddan nhw heb nifer o’u chwaraewyr blaenllaw, gan gynnwys yr asgellwr Kadeem Harris, sydd allan am dri mis ar ôl anafu ei ffêr.

Byddan nhw hefyd heb eu golwr Lee Camp a’r amddiffynwyr Callum Paterson a Matt Connolly.

Bydd Burton heb Ben Turner, sydd wedi’i wahardd am bum gêm am sarhau Nico Yennaris o Brentford yn hiliol y tymor diwethaf.

Ac mae eu hymosodwr Liam Boyce allan am ran helaeth o’r tymor ar ôl anafu ei goes.

Caerdydd yn y Bencampwriaeth

Mae gan Gaerdydd record dda ar ddiwrnod cynta’r tymhorau blaenorol yn y Bencampwriaeth, wrth iddyn nhw ennill pedair allan o naw o’u gemau agoriadol, a chael pedair gêm gyfartal.

Dim ond unwaith mewn 10 tymor y mae’r rheolwr Neil Warnock wedi colli’r gêm agoriadol – o 4-0 yn erbyn Bolton pan oedd e’n rheolwr ar QPR yn yr Uwch Gynghrair.

Y tîm cartref sydd wedi ennill y tair gêm ddiwethaf rhwng y ddau glwb – Caerdydd ddwywaith a Burton unwaith.