Bu’r blynyddoedd diwethaf yn gyfnod llwm i glwb pêl-droed Wrecsam wrth iddyn nhw orfod gwneud heb bêl-droed ym mhrif gynghreiriau Lloegr ers 2008… bron i ddegawd erbyn hyn.

Ar gyfer y tymor i ddod mae’r rheolwr Dean Keates wedi newid y garfan gan ychwanegu 13 chwaraewr.

Y disgwyl yw y bydd torf o ddua 6,000 am y gêm agoriadol yn erbyn Macclesfield ar y Cae Ras yfory, gyda’r cefnogwyr yn obeithiol o ddyrchafiad y tymor hwn.

Ond yn ôl un o gyn-chwaraewr y clwb, mae angen pwyll.

“Mae’r cefnogwyr yn haeddu gwell,” meddai Waynne Phillips, “dw i’n gefnogwr a gobeithio mai tymor hon yw’r un lle mae Wrecsam yn cael dyrchafiad. Mae’r gemau dechrau tymor wedi bod yn iawn – ond mae’n rhaid cofio rydan heb di chwarae neb o ru’n safon. Y gêm agoriadol bydd y pren mesur a bydd Macclesfield yn wrthwynebwyr anodd. Ar ôl deg  gêm cawn wybod mwy – sut bydd y chwaraewyr newydd wedi setlo a phwy fydd yn brwydro am y safleoedd uchel.”

Mae Waynne Phillips yn gobeithio bydd y chwaraewyr  ifanc  Leo Smith a Olly Marx  yn cael eu cyfle yn y tîm gyntaf. “Maen nhw wedi bod yn wych yn gemau cyfeillgar, a dio’m ots faint di oedran nhw, pe bai bod nhw  digon da mae angen iddyn nhw chwarae. Roeddwn i’n ffodus bod fy rheolwr Brian Flynn a ffydd ynau, os ti digon da ti dechrau.”

600 ym Mhortiwgal

“Mae’r chwaraewr newydd yn gorfod deall y clwb,” meddai Waynne Phillips. “Roedd 600 wedi mynd drosodd  i Bortiwgal am gêm gyfeillgar – anhygoel.  Ac mae sôn am tua  6,000 dydd Sadwrn, meddyliwch fod ni’n cael dechrau da, bydd posib 8,000 yn dod trwy’r gatiau.

“O ran chwaraewyr newydd mae Manny Smith yn nabod y clwb ac wedi chwarae llawer o gemau i Gateshead  tymor diwethaf – dwi’n hapus  á fo, ac  mae James Jennings  yn chwaraewr da – ond dwi  heb weld llawer o’r chwaraewyr eraill i roi fy marn.”

Mae’r clwb yn ymdrechu i ddenu cefnogwyr newydd i’r  Cae Ras gyda thocyn i blentyn ond yn £1 a  bws o Bwllheli am y gêm agoriadol yn stopio ym Mhorthmadog, y Bala a Chorwen.