Adam Owen
Mae nifer o wlad Pwyl wedi dod i Brydain i weithio dros y blynyddoedd ond mae hyfforddwr o Wrecsam wedi symud y ffordd arall i fynd i weithio i ddinas Gdansk yng ngogledd  y wlad i ymuno a Lechia Gdansk .

Mae nifer o newidiadau wedi digwydd dros yr haf yn cynnwys Adam Owen yn ymuno blwyddyn ar ôl i lywydd y clwb geisio ei gael  tymor diwethaf.

Mi ddechreuodd Owen gyda’i glwb gartref  Wrecsam lle chwaraeodd am gyfnod cyn dechrau hyfforddi yn yr academi. Gwnaeth gynrychioli’r Drenewydd, Airbus, a Chei Connah yn Uwchgynghrair Cymru cyn ymuno a Celtic yn 2003/04 i hyfforddi’r timau o dan-17 a 19. Mi symudodd i weithio gydag ail dim ‘Y Bhoys’ pan oedd yn dal i chwarae i East Stirling yn nhrydedd gynghrair yr Alban.

Mae wedi gweithio gyda Sheffield Wednesday fel Pennaeth Perfformiad a Rangers fel rhan o’r tîm hyfforddi. I gyflawni’r dwbl o weithio gyda chlybiau o ddwy ddinas , mi ymunodd a Sheffield United yn 2013 i weithio gyda David Weir cyn arwain a datblygu Ysgoloriaeth Pêl-droed yn Academi Prifysgol Glyndŵr /Wrecsam.

‘Dysgu iaith arall’

Yn 2014/15 mi ymunodd a thîm Servette yn ninas Genefa yn y Swistir fel cynorthwyydd . Mae hefyd yn ddeilydd drwydded hyfforddi broffesiynol UEFA. Felly pam Gdansk?

“Roedd llywydd y clwb wedi cysylltu â fi rhyw flwyddyn yn ôl, ond roedd yr amser ddim yn iawn i symud. Roedd fy nghytundeb gyda Servette yn dod i ben ddiwedd y tymor felly mi siwtiodd pawb yn iawn i symud ar y pryd.

“Mae’n gyfle arall i mi ddysgu iaith arall, er mae’n anodd, gweld gwahanol ddiwylliant, a dwi wrth fy modd dramor yn cael trio syniadau newydd.  Rwy’n mwynhau gweithio yn Ewrop,  fy swydd ydy cynorthwyydd i’r rheolwr Piotr Novak , a chyfarwyddwr perfformiad.

“Mae cystadleuaeth UEFA  o dan-21 wedi cael ei chwarae yma yn ddiweddar, mae pethau mawr yn digwydd yn y wlad, mae’r stadiymau i gyd yn newydd, mae’r cefnogwyr mor angerddol . Ond mae hon yn mynd i fod yn flwyddyn o newid gyda fi yn dod i mewn a nifer o chwaraewyr wedi gadel ac ymuno a’r clwb. Rwy’n trio cael gafael yn bob dim yn sydyn. Rydan yn ymarfer gyda nos, ru’n amser ac rydan yn chwarae fel arfer. Trio rhywbeth gwahanol ydan ni, i weld sut mae’r corff yn addasu.”

Ychwanegodd: “Mae Gdansk yn ddinas wych, gyda thraeth a theimlad eithaf rhyngwladol yma. Mae chwaraewyr o Bortiwgal, Croatia, Serbia a Slofacia yn y garfan.”

Wrecsam yn ‘agos at fy nghalon’

Roedd y tîm ger mor y Baltic yn un o’r timau cryfach yn y ‘50au, cyn dioddef amser caled iawn am ddegawdau, ond yn yr 80au enillodd gwpan Gwlad Pwyl a chwarae yng Nghwpan Enillydd Cwpanau UEFA gan golli i Juventus.

Mae’r dyn  o Wrecsam yn ceisio gwneud i farc yn Gdansk ond y canlyniad cyntaf mae’n edrych amdano yw i glwb Wrecsam: “Dwi dal mewn cyswllt a nifer yn y clwb ac rwy’n wir gobeithio mai’r tymor hon y bydd yn cael dyrchafiad a cheisio dringo fyny’r cynghreiriau – mae’ n glwb sy’n agos at fy nghalon, pob lwc iddyn nhw.”