Mae Clwb Pêl-droed Bae Colwyn wedi penderfynu dal ati i chwarae yn Lloegr, yn hytrach nag ymuno ag Uwch Gynghrair Cymru.

Maen nhw’n dweud eu bod wedi gwrando ar ymateb eu cefnogwyr mewn holiadur ar y we. Roedd hwnnw’n gofyn be’ fyddai orau – aros yn gynghreiriau Lloegr, neu ymuno â phyramid Cymru?

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion o blaid aros yn Lloegr -a heddiw, fe ddaeth datganiad gan y clwb i’r un perwyl.

“Fel cadeirydd y clwb, does  ddim bwriad o gwbl o roi cais i ymuno á Uwchgynghrair Cymru,” meddai David Titchiner.

“Pan mae sgyrsiau yn codi am ein dyfodol sy’n effeithio ar y clwb, rydan ni’n siarad efo’n cefnogwyr sydd â thocyn tymor, ac efo’n cyfranddalwyr.”

Mae canlyniadau’r Bae wedi bod yn siomedig yn ddiweddar ac, ar hyn o bryd. maen nhw’n cystadlu yn wythfed haen bêl-droed Lloegr.

Dydi canlyniadau gemau cyfeillgar y clwb dros y mis diwethaf, wrth baratoi ar gyfer y tymor newydd, ddim wedi bod yn galonogol chwaith, wrth iddyn nhw golli ar eu maes eu hunain i dri thîm o Uwch Gynghrair Dafabet Cymru, sef Llandudno (0-2), Bangor (1-2) a cholli i Gei Connah  3-7 yr wythnos yma.

Barn cefnogwr

“Fel cefnogwr mi faswn yn licio gweld y clwb yn chwarae ar y lefel uchaf posib, yn datblygu’r cyfleusterau, a datblygu system ieuenctid,” meddai Arwel Clwyd Jones, cefnogwr brwd.

“Dydi’r syniad o ymuno â phyramid Cymru ddim yn codi ei ben yn y clwb o gwbwl, hyd y gwela’ i (dim ond pan mae rhywun o’r cyfryngau yn tarfu ar yr heddwch).”

Diflas tu hwnt

“Mae beth mae Bala, wedi ei gyflawni yn wych,”meddai Arwel Clwyd Jones wedyn, “ond ar ôl un gêm yng nghystadleuaeth Europa (faint o gefnogwyr sy’n trafeilio i’r gêm oddi cartref), beth sydd yna i edrych ymlaen ato?

“Chwarae TNS, Cei Connah a Bangor chwe gwaith yr un mewn naw mis? Dydi hynny ddim yn ddiflas tu hwnt?

“Dw i wedi clywed am amryw o gefnogwyr o Rhyl, ac ambell un o Fangor, fydda wrth eu boddau yn newid lle efo ni. Yn bersonol, dw i ddim yn gwybod am neb sydd eisiau newid.

” Ond beth am sefyllfa Wrecsam? Un gynghrair oedd rhyngddan ni ddwy flynedd yn ôl, ond dydi eu sefyllfa nhw byth yn destun trafod. Beth am Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd?”