Gylfi Sigurdsson - mae'n bosib na fydd yno ar Awst 2
Fe fydd cyfle prin i gefnogwyr tîm pêl-droed Abertawe weld y chwaraewyr yn ymarfer, pan fyddan nhw’n cynnal sesiwn gyhoeddus yn Stadiwm Liberty cyn dechrau’r tymor newydd.

Bydd mynediad rhad ac am ddim i’r sesiwn ar Awst 2 wrth i’r garfan baratoi ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Sampdoria dridiau’n ddiweddarach.

Mae drysau’r stadiwm yn agor am 10 o’r gloch y bore ar gyfer y sesiwn sy’n dechrau am 11 o’r gloch.

Gylfi Sigurdsson

Ond mae’n bosib y bydd yr Elyrch yn ymarfer heb eu hymosodwr allweddol, Gylfi Sigurdsson wrth i’r dyfalu ynghylch ei ddyfodol barhau.

Mae lle i gredu bod Abertawe wedi gwrthod sawl cynnig o £40 miliwn am y chwaraewr, ac mae’n bosib bod Everton wedi rhoi’r gorau i geisio ei arwyddo.

Yn hytrach, mae adroddiadau’n awgrymu eu bod nhw’n bwriadu cystadlu yn erbyn yr Elyrch am Jonathan Vieira o Las Palmas.

Mae ganddo fe gymal yn ei gytundeb sy’n golygu y gallai Everton ei brynu am £26.7 miliwn – a niweidio gobeithion Abertawe o arwyddo ymosodwr yn lle Gylfi Sigurdsson pe bai e’n gadael yn y pen draw.

Paratoi at y dyfodol

Dydy’r ymosodwr o Wlad yr Iâ ddim wedi teithio i’r Unol Daleithiau gyda’r Elyrch, ac mae’r prif hyfforddwr Paul Clement wedi awgrymu ei fod e’n paratoi’r garfan ar gyfer bywyd hebddo fe yn yr Uwch Gynghrair.

Dywedodd Paul Clement: “Dyw’r sefyllfa ddim yn ddelfrydol, ond mae’n rhan o’r proffesiwn a gobeithio yn y dyfodol agos fod yna ddiweddglo positif i bawb.

“Y sefyllfa ar hyn o bryd yw nad yw Gylfi gyda’r tîm. Fe benderfynodd e aros yn Abertawe i ddatrys ei ddyfodol.

“Ond rhaid i fi ganolbwyntio ar y chwaraewyr sydd yma a gweithio gyda’r perchnogion a’n cadeirydd ar dargedau posib i ddod i mewn a chryfhau’r garfan er mwyn symud ymlaen.”