Mae ymosodwr Cymru wedi gwrthod cytundeb gan Hibernian. Roedd Simon Church, 28, wedi bod ar brawf gyda’r clwb o Gaeredin ac, yn ôl pob sôn, wedi creu argraff ar y rheolwr, Neil Lennon.

Mae’r ymosodwr wedi cael hunllef o flwyddyn ar ôl symud i’r Iseldiroedd i ymuno á Roda JC yn yr Eredivisie. Ar ôl pedair gêm, fe gafodd anaf i’w glun ac ar ôl llawdriniaeth ac adferiad hir a olygodd fod ar faglau am ddeg wythnos, fe gytunodd y clwb i’w ollwng.

Roedd Simon Church wedi cael cyfnod gwych gydag Aberdeen ar fenthyg o MK Dons yn 2016, gan sgorio chwe gôl mewn 13 ymddangosiad.

“Mi gynigodd Hibs hefyd gytundeb i mi, meddai wrth golwg360,” ond dw i ddim yn teimlo mai rwan ydi’r adeg iawn i symud y teulu i’r Alban. Dydi hi ddim yn ddelfrydol i fod heb glwb,  oherwydd mae’r clybiau wedi dechrau ymarfer ar gyfer y tymor newydd, ond dw i’n gwneud yn siŵr fy mod yn ffit, a dw i’n byw mewn gobaith y ca’ i gynnig arall.

“Yn ddelfrydol, mi faswn i’n hoffi aros yng ngwledydd Prydain… ond, pe bai cynnig gwych yn dod o dramor, mi faswn i’n gorfod ystyried y cynnig hwnnw.”

Mae Simon Church wedi cynrychioli Cymru 38 o weithiau, gan sgorio tair gôl.