Gareth Bale (Llun: Nick Potts/PA Wire)
Mae Real Madrid yn ystyried gwerthu Gareth Bale er mwyn prynu’r ymosodwr ifanc Kylian Mbappe, yn ôl adroddiadau’r Daily Express.

Mae’r chwaraewr 18 oed wedi denu sylw Manchester City a Paris St. Germain hefyd, ac mae lle i gredu bod Monaco yn disgwyl £120 miliwn amdano fe.

Mae’r ffenest drosglwyddo’n cau ar Awst 31.

Gwerthu Alvaro Morata yw’r opsiwn arall sydd ar gael i Real Madrid, ond dydy Man U na Chelsea ddim yn barod i dalu £80 miliwn i’w ddenu.

Tymor anodd

Ar ôl chwarae rhan allweddol yn llwyddiant tîm Cymru yn Ewro 2016, cafodd Gareth Bale dymor anodd yn Sbaen y tymor diwethaf, yn dilyn cyfres o anafiadau.

Cafodd Isco ei ddewis yn ei le ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd, ond fe ddaeth e oddi ar y fainc tua’r diwedd yn ninas ei febyd.

Mae Gareth Bale yn ennill oddeutu £350,000 yr wythnos ym Madrid, ac mae ei gytundeb presennol yn dod i ben yn 2022.

Mae Man U, Paris St. Germain a Chelsea eisoes wedi mynegi diddordeb yn y Cymro.