Nev Powell
Mae clwb pêl-droed Aberystwyth wedi penodi enw cyfarwydd iawn yn rheolwr newydd.

Fe fydd Neville Powell yn cymryd lle Tony Pennock a gafodd ei ryddhau y mis diwethaf er mwyn ail-ymuno â Hull.

Mae Neville Powell wedi ennill yr Uwch Gynghrair yn 2010/11, ac wedi cipio Cwpan Cymru dedirgwaith (yn 2008, 2009 a 2010) gyda’i gyn-clwb, Bangor.

Y gobaith yw bydd yn y gêm gyfeillgar rhwng Aberystwyth a Llanelli ddydd Sadwrn nesaf (Gorffennaf 15) ar Goedlan y Parc.

“Er y siom o ffarwelio gyda Tony Pennock, mae denu rheolwr o brofiad a statws Neville Powell yn newyddion gwych,” meddai Dilwyn Roberts-Young, cyd-olygydd rhaglen Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.

“Rhaid llongyfarch y Cyfarwyddwyr a diolch i Wayne Jones am ei waith yn gofalu am y tîm.

“Y newyddion da yw y bydd Wayne gyda Neville Powell y tymor hwn ac mae’r cefnogwyr, wedi cyfnod o ansicrwydd, yn edrych ymlaen at dymor llwyddiannus.”