Scott Ruscoe (Llun: www,tnsfc.co.uk)
Yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Europa FC ym Mhortiwgal yr wythnos ddiwethaf, mae’r Seintiau Newydd yn wynebu pencampwyr Croatia, HNK Rijeka, heno (nos Fawrth) yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Mae rheolwr y Seintiau, Scott Ruscoe, yn deall bod her fawr o’u blaenau.

“Yn amlwg rwy’n edrych ymlaen at yr her,” meddai wrth golwg360. “Rwyf wedi gweld nifer o’u gemau nhw ar fideo, ac maen nhw’n gryf – maen nhw’n dîm da.

“Rydan ni’n deall yn iawn be’ sydd o’n blaenau ni, ac mae’r chwaraewyr yn gwybod be’ ydi maint y dasg, ond mae yna gynllun ac mi fyddan ni’n rhoi gant y cant.”

Y Seintiau yw’r unig dîm o Gymru ar ôl yn Ewrop ar ôl i’r Bala, Bangor a Chei Connah fynd allan yr wythnos ddiwethaf.  Mae amheuaeth am ffitrwydd y cefnwr Chris Marriot ar chwaraewr canol cae  Chris Seargeant.

Mae Rijeka yn chwarae yn Stadiwm Rujevica, lle chwaraeodd Prestatyn yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa yn 2013/14, gyda’r tîm o Groatia yn ennill 8-0 dros ddau gymal.

Cynghrair gyntaf

Wedi gorffen yn ail i Dinamo Zagreb yn y tair ymgyrch ers 2014/15, mi enillodd y gwynion y gynghrair y tymor ddiwethaf… roedd hynny gan golli ddwywaith a chael saith gêm gyfartal.

Eu tymor mwyaf llwyddiannus yn Ewrop oedd yn 1978/79 pan gyrhaeddon yr wyth olaf cyn colli i gewri’r Eidal, Juventus.