Wrth i’r pêl-droediwr Romelu Lukaku gwblhau trosglwyddiad mwyaf ei yrfa o Everton i Man U am £75 dros y dyddiau nesaf, mae’r ymosodwr yn wynebu achos llys yn yr Unol Daleithiau am wneud twrw yn Beverly Hills.

Yn ôl rhai adroddiadau, fe gafodd ei arestio ar Orffennaf 2 ar ôl derbyn rhybudd gan yr heddlu. Ond mae’r heddlu’n dweud nad oedd e wedi cael ei arestio mewn gwirionedd.

Fe fydd rhaid iddo fe ymddangos gerbron llys yn Los Angeles ym mis Hydref, sydd o bosib yn golygu na fydd e ar gael ar gyfer gêm Man U yn erbyn Crystal Palace ar Fedi 30.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn pump o gwynion am sŵn.