Er eu bod nhw yn yr un stadiwm, doedd Bangor ddim yn yr un cae â’u gwrthwynebwyr neithiwr.

Fe roddodd Lyngby BK wers bêl-droed i’r Dinasyddion mewn gêm yn Stadiwm Nantporth oedd yn cael ei dangos yn fyw ar S4C.

Roedd gobeithion y tîm cartref yn uchel wedi iddyn nhw lwyddo i ddianc i Ddenmarc yr wythnos ddiwethaf wedi ildio un gôl yn unig, yng nghymal cyntaf gêm ragbrofol ar gyfer y gystadleuaeth Ewropa.

Ond o fewn munudau roedd Lyngby wedi sgorio gôl amhrisiadwy oddi cartref ar gae Nantporth, ac fe aethon nhw ymlaen i sgorio ddwywaith eto a llwyr reoli’r gêm.

Fe gymrodd hi tan y munudau olaf i Fangor gael shot at gôl.

Er y siom, gall y tîm cartref ymhyfrydu yn y ffaith iddyn nhw werthu pob un o’r 750 o docynnau oedd ar gael i’w cefnogwyr.

Camgymeriad costus

Roedd pas lac chwaraewr canol cae Bangor, Damien Allen, ar ôl tair munud yn gostus gyda Kristoffer Larsen yn manteisio a chrymanu’r bêl heibio’r gôl- geidwad  Connor Roberts.

Cyn y gêm roedd newyddion wedi torri bod amddiffynnwr disglair Bangor, Gary Roberts, wedi gadael y clwb i ymuno â Southport. Cyhoeddwyd datganiad gan y clwb bod Gary Roberts wedi ymddwyn yn amhroffesiynol ac wedi dangos diffyg parch.

Vaduz yn rhoi’r felan i’r Bala 

Roedd Y Bala oddi cartref ym mhrif ddinas Liechtenstein i herio FC Vaduz sy’n chwarae yng nghynghrair y Swistir. Roedd enillwyr Cwpan Cymru wedi colli’r cymal cyntaf 1-2 yn y Rhyl a chwalodd Vaduz eu gobeithion ar ôl 22 munud pan sgoriodd Aldin Turkes, cyn sgorio ei ail ar ôl 39 munud. Cyn yr egwyl sgoriodd Marco Mathys i Viduz pan oedd y Bala yn ceisio rhoi eilydd ar y cae. Roedd y Bala yn well yn yr ail hanner ac aeth ergyd nerthol David Thompson dros y bar cyn diwedd y gêm.

Cei Connah yn colli hefyd

Er iddyn nhw lwyddo i guro Helsinki 1-0 yn y cymal gyntaf gartref, fe gollodd Cei Connah 3-0 oddi cartref.

Helsinki sydd ar frig cynghrair y Ffindir.