Joey Jones (Llun: Gwefan Clwb Pel-droed Wrecsam)
Mae clwb pêl-droed Wrecsam wedi cyhoeddi bod un o chwaraewyr eiconaidd y Cae Ras wedi penderfynu ymddeol o’i swydd lawn amser yn hyfforddi pobol ifanc.

Mae Joey Jones,  o Landudno, yn cael ei adnabod fel Mr Wrecsam ers ymuno á’r clwb yn 1970. Ar ôl chwarae i nifer o glybiau yn cynnwys Lerpwl, Chelsea a Huddersfield, fe ail-ymunodd â Wrecsam yn 1987.

Er na fydd o ddim yn gweithio’n llawn amser i’r clwb eto, fe fydd Joey Jones yn parhau i wirfoddoli gyda’r adran ieuenctid ac yn trafod ac yn cynghori’r tim cyntaf.

“Dw i wedi bod wrth fy modd efo Wrecsam,” meddai Joey Jones, “ond mae’n amser rwan i adael rhai eraill i gario’r gwaith yn ei flaen.

“Mae’r clwb yn rhan anferth o fy mywyd,” meddai wedyn, “a tra fy mod yn ymddeol o waith llawn amser, mi fydda’ i’n dal i geisio cynnig fy mhrofiad i helpu’r genhedlaeth ifanc ddod trwodd i’r tim cynta’.

“Dw i’n edrych ymlaen at y tymor newydd, ac yn gobeithio y byddan ni’n brwydro am ddyrchafiad.”

Amser i bawb

Dywedodd Cledwyn Ashford, sydd wedi  gweithio á Joey yn Wrecsam: “Does neb tebyg iddo fo, amser i bawb , ond hefyd yn hyfforddwr da a rhywun sy’n gallu ysgogi.

“Dw i wedi edmygu Joey erioed, a dw i wrth fy modd bod yn ei gwmni. Mae o’n berson arbennig iawn.”

Fe chwaraeodd Joey Jones 230 o weithiau i Wrecsam ar ddau gyfnod, ac fe enillodd 72 o gapiau dros Gymru.