Mae’r ymosodwr Tammy Abraham yn edrych ymlaen at brofi ei werth yn yr Uwch Gynghrair ar ôl symud ar fenthyg o Chelsea i Abertawe am dymor 2017-18.

Y chwaraewr 19 oed yw’r ail i symud i’r Elyrch dros yr haf, yn dilyn trosglwyddiad y golwr Erwin Mulder o Heerenveen.

Ar y diwrnod y symudodd i dde Cymru, llofnododd Tammy Abraham gytundeb pum mlynedd newydd gyda Chelsea.

Bydd e’n ymuno â charfan yr Elyrch ar gyfer y daith i’r Unol Daleithiau wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y tymor newydd.

Roedd e’n aelod o garfan dan 21 Lloegr ym Mhencampwriaethau Ewrop yng Ngwlad Pŵyl, ac mae e wedi chwarae ddwywaith i Chelsea yn yr Uwch Gynghrair.

Treuliodd y tymor diwethaf ar fenthyg yn chwarae i Bristol City yn y Bencampwriaeth, gan sgorio 26 gôl mewn 48 o gemau.

Roedd prif hyfforddwr yr Elyrch, Paul Clement yn ymwybodol o’i ddoniau ar ol bod yn hyfforddwr ieuenctid gyda Chelsea, er nad oedd Tammy Abraham wedi chwarae yn yr un o’i dimau yno.

Cyngor gan Alfie Mawson

Bydd Tammy Abraham yn ymuno ag aelod arall o garfan dan 21 Lloegr, Alfie Mawson, oedd wedi argymell y clwb iddo fe.

“Dw i wedi cyffroi,” meddai Tammy Abraham. “Fe wnes i fwynhau fy amser yn Bristol City y tymor diwethaf, yn chwarae pêl-droed tîm cyntaf yn rheolaidd a sgorio goliau. Gobeithio y galla’i wneud yr un fath yn Abertawe.

“Fe wnes i wylio Abertawe dipyn y tymor diwethaf pan chwaraeon nhw yn erbyn Chelsea ac ar y teledu.

“Dw i’n gwybod ei fod yn dymor anodd iddyn nhw ar adegau ond roeddech chi’n gallu gweld eu bod nhw o hyd yn ceisio chwarae pêl-droed ddeniadol.

“Roedd hynny’n dipyn o ffactor wrth i fi ymuno ag Abertawe. Pan fydd timau’n chwarae pêl-droed dda, mae’n dueddol o greu cyfleoedd i’r ymosodwr. Fy nghyfrifoldeb i wedyn yw cael fy hun mewn safleoedd da a gobeithio sgorio goliau.

“Mae Alfie yn dipyn o foi ac fe ddywedodd e gryn dipyn wrtha i am Abertawe. Fe ddywedodd ei fod yn glwb da a lle gwych i gael bwrw iddi, gweithio’n galed a chanolbwyntio ar eich pêl-droed.

“Dywedodd y byddai’n drosglwyddiad da i fi gael datblygu.”