Bydd tymor newydd y  Gynghrair Genedlaethol yn dechrau ar nos Wener yr 11eg o Awst pan fydd Bangor yn croesawu’r Seintiau Newydd i Nantporth. Bydd y Bala’n herio’r Drenewydd ar y nos Wener agoriadol hefyd a Phrestatyn yn croesawu Cei Connah i Erddi Bastion.

Ddydd Sadwrn y 12fed o Awst bydd Derwyddon Cefn yn herio Met Caerdydd tra bydd Caerfyrddin yn teithio i Landudno.
Bydd S4C yn dangos eu gêm fyw gyntaf o’r tymor am 17:15 brynhawn Sul y 13eg wrth i’r Barri groesawu Aberystwyth i Barc Jenner.

Y Seintiau Newydd yn erbyn Y Bala fydd gornest fyw Sgorio ar yr ail benwythnos (19/9/17) a’r nos Wener ganlynol (25/8/17) bydd Bangor v Prestatyn yn cael ei darlledu’n fyw.

Mewn partneriaeth gydag S4C bydd nifer o gemau’n cael eu ffrydio ar Facebook Live yn ystod y tymor a hynny ar nosweithiau Iau. Y ddwy gêm gyntaf fydd yn cael eu dangos fydd Llandudno v Prestatyn (7/9/17) a’r Barri v Caerfyrddin (21/9/17).

Rhestr gemau  penwythnos agoriadol

1/08/17
19:45 – Bangor v Y Seintiau Newydd
19:45 – Prestatyn v Cei Connah
19:45 – Y Bala v Y Drenewydd

12/08/17
14:30 – Derwyddon Cefn v Met Caerdydd
14:30 – Llandudno v Caerfyrddin

13/08/17
17:15 – Y Barri v Aberystwyth (S4C)