Mae Casnewydd a Crewe Alexandra wedi cytuno i ad-drefnu eu gemau yn erbyn ei gilydd y tymor hwn yn dilyn pryderon na fydd cae newydd Rodney Parade yn barod mewn da bryd ar gyfer dechrau’r tymor.

Bydd eu gêm ar Awst 12 yn cael ei chynnal ar gae Ffordd Gresty, tra byddan nhw’n cyfarfod ar Rodney Parade ar Fawrth 24.

Mae symud y gemau’n golygu y bydd modd i Undeb Rygbi Cymru osod y cae newydd ar gyfer gemau rygbi’r Dreigiau heb i gemau pêl-droed amharu ar eu cynlluniau.

Bydd Casnewydd yn chwarae gartref am y tro cyntaf yn erbyn Chesterfield ar Awst 26, gyda gemau oddi cartref ym mis Awst yn erbyn Stevenage, Southend, Crewe Alexandra a Coventry.

Bydd gemau gartref yn erbyn Accrington Stanley, Luton, Crewe Alexandra a Coventry ym mis Mawrth.

Bydd eu gêm gyntaf oddi cartref ar Awst 5 yn erbyn Stevenage.

Dros gyfnod y Nadolig, byddan nhw’n teithio i Wycombe ar Ddydd San Steffan, ac yn croesawu Caerwysg i Gymru ar Ddydd Calan.

Daw’r tymor i ben yng Nghaerliwelydd ar Fai 5, wythnos ar ôl iddyn nhw chwarae eu gêm olaf y tymor ar Rodney Parade yn erbyn Caergrawnt.

Rhestr y gemau.