Bydd cynrychiolwyr o glybiau Uwch Gynghrair Cymru yn ninas Nyon yn y Swistir ddydd Llun i ddarganfod pwy fyddan nhw’n eu herio yn Ewrop.

Bydd y Seintiau Newydd yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr a bydd Y Bala, Bangor a Chei Connah yng Nghynghrair Europa.

Roedd y Seintiau wedi curo Brickfield Rangers 12-1 ddydd Gwener, ac roedd y gweddill yn wynebu gwrthwynebwyr o Ogledd Iwerddon mewn gemau a gafodd eu trefnu i gynnig gwrthwynebwyr o safon cyn i’r gemau yn Ewrop ddechrau.

Brynhawn dydd Sadwrn, digon cymysg oedd y canlyniadau, gyda’r Bala yn colli gartref i Linfield o 3-1 , Bangor yn colli o 3-1 yn Coleraine, a chafodd Cei Connah gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Ballymena United.

Rhagor o gemau

Bydd y gemau paratoadol yn parhau ddydd Sadwrn nesaf gyda’r Bala yn teithio i’r Crusaders a Chei Connah yn teithio i Perth yn yr Alban i wynebu St Johnstone.

Bydd y rownd ragbrofol gyntaf yn dechrau ar Fehefin 29 a Gorffennaf 6, gyda’r ail rownd ar Orffennaf 13 a 20.

Y dorf

Roedd newyddion cymysg o ran y dorf, gyda gostyngiad ar gyfartaledd o 6.38% o’i gymharu â thymor 2015/16. Hwn yw’r ffigwr gwaethaf ers pedwar tymor, ond dyma’r chweched torf fwyaf yn hanes y gynghrair.