Luke Wall (Llun: Wikipedia)
Mae clwb pêl-droed dinas Bangor yn cynllunio am dymor newydd yn Uwch Gynghrair Cymru yn ogystal ag ymgyrch yn Ewrop.

Dyna pam, efallai, y mae’r clwb wedi arwyddo’r chwaraewr canol cae, Luke Wall a’r ymosodwr, Sam Henry.

Mae Luke Wall yn ugain oed ac wedi treulio cyfnod gyda Blackburn Rovers pan oedd yn ifanc. Fe gafodd ei rhyddhau gan Blackburn ac mi dreuliodd gyfnod gyda Accrington Stanley, ond roedd cyfleoedd yn y tîm gyntaf yn brin ac mi aeth ar fenthyg i Skelmersdale United, Clitheroe a Marine.

“Mae Luke wedi bod yn ymarfer gyda’r tîm cyntaf ac mae wedi dangos agweddau gwych,” meddai Gary Taylor-Fletcher, is-reolwr Bangor. “Mae’n dalentog ac mi wneith wellhau’r garfan.”

Mae’r ymosodwr, Sam Henry, yn cyrraedd Nantporth gyda record dda o sgorio goliau, yng nghynghrair ardal Wrecsam.

Bydd trefn gemau Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer tymor 2017/18 yn cael eu cyhoeddi am hanner dydd, ddydd Gwener, Mehefin 23.

Ac un dyn bach yn ôl…

Mae Brayden Shaw, 20, yn dychwelyd i Nantporth ar ôl cael dechrau da i’r tymor diwethaf ym Mangor, yn chwarae 18 o weithiau ac yn sgorio tair gôl. Fo oedd chwaraewr y mis, Uwch Gynghrair Cymru ym mis Tachwedd 2016, cyn iddo adael am Accrington Stanley.

“Rydan wrth ein boddau i gael Brayden yn ôl,” meddai Kevin Nicholson, rheolwr newydd Bangor.

“Mae ganddo brofiad o’r Uwch Gynghrair yn dilyn ei gyfnod efo ni y tymor diwethaf. Dw i’n edrych ymlaen at weithio efo fo, a dw i’n disgwyl iddo fo greu argraff bositif ar y tîm.”