Chris Coleman yn dathlu yn Ffrainc (Llun: PA)
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi dweud ei fod yn hyderus y gall Cymru achub eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 gyda chanlyniad positif yn erbyn Serbia heno.
Mae Cymru bedwar pwynt y tu ôl i’w gwrthwynebwyr, a bydd rhaid iddyn nhw ymdopi heb Gareth Bale, sydd wedi’i wahardd.
Chris Coleman yn cofio’n ôl
Union flwyddyn yn ôl i heddiw, curodd Cymru Slofacia o 2-1 yng ngêm agoriadol Ewro 2016 yn Bordeaux cyn mynd ymlaen i gyrraedd y rownd gyn-derfynol.
Dywedodd Chris Coleman fod yr atgofion yn dal yn fyw er ei fod e a’r chwaraewyr wedi “ceisio’n galed i symud ymlaen”.
“Y sŵn, waw, roedd hynny’n anghredadwy. Dyna dw i’n ei gofio.
“Wrth gwrs ’mod i’n cofio’r goliau. Ond y twrnament cyntaf, y gêm gyntaf, canu’r anthem genedlaethol – dyna’r gorau gewch chi.”
Ar ôl y fuddugoliaeth gyntaf honno yn Bordeaux, aeth Cymru ymlaen i guro Rwsia, Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg cyn colli yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn Portiwgal, oedd wedi ennill y gystadleuaeth yn y pen draw.
Dyfodol Chris Coleman
Mae disgwyl i Chris Coleman gamu o’r neilltu ar ôl Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf, ac mae e’n benderfynol o arwain ei wlad i ail dwrnament ryngwladol yn olynol.
“Dydyn ni ddim yn bell o gyrraedd lle mae angen i ni fod i gael blasu’r profiad hwnnw eto.
“Mae’n werth gwneud. Am le ffantastig i fod, ond rhaid i chi fynd gam ymhellach nag arfer i’w flasu.
Gweddill yr ymgyrch
Ar ôl heddiw, fe fydd gan Gymru gemau yn erbyn Awstria yng Nghaerdydd a Moldofa oddi cartref, cyn gorffen ym mis Hydref yn erbyn Georgia oddi cartref a Gweriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd.
Mae’n bosib y bydd rhaid i Gymru ennill eu pedair gêm olaf er mwyn gorffen yn ail a chael gêm ail gyfle.
Ychwanegodd Chris Coleman ei fod e’n “optimistaidd” am yr hyn sydd i ddod.
Serbia v Cymru – y gic gyntaf am 7.45 a’r gêm yn fyw ar S4C.