Mae amddiffynnwr Serbia, Branislav Ivanovic wedi wfftio’r awgrym fod y gêm yn 2012 pan gollodd Cymru o 6-1 yn mynd i gael effaith ar y gêm y tro hwn.

Y canlyniad hwnnw oedd un o’r digwyddiadau gwaethaf ers i deyrnasiad Chris Coleman ddechrau, wrth i Serbia greu embaras yn Novi Sad yn y gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014.

Maen nhw’n mynd ben-ben yn ninas Belgrad unwaith eto yfory wrth i Serbia geisio sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd 2018.

Maen nhw ar frig Grŵp D ynghyd â Gweriniaeth Iwerddon, ac mae ganddyn nhw fantais o bedwar pwynt dros Gymru, sy’n drydydd.

Trobwynt

Yn ôl Branislav Ivanovic, roedd y canlyniad yn Novi Sad yn drobwynt yn hanes tîm pêl-droed Cymru.

“Dw i’n credu bod Cymru wedi cael tipyn o lwyddiant ar ôl y gêm honno ac roedd yn drobwynt iddyn nhw.

“Dydy’r math yna o gêm ddim yn digwydd yn aml iawn. Ond does dim yn cysylltu’r gêm honno a nawr.”

Gareth Bale

Mae Gareth Bale wedi’i wahardd ar gyfer y gêm, ond dydy hynny ddim yn golygu y bydd Cymru lawer llai peryglus, yn ôl Branislav Ivanovic.

“Ry’n ni’n gwybod nad yw Gareth Bale gyda Chymru, ond does gan yr un tîm ddim ond un chwaraewr.

“Mae Cymru’n dîm peryglus sydd wedi chwarae gyda’i gilydd ers amser hir.”

Ond bydd rhaid i Gymru ymdopi hefyd heb James Collins, Neil Taylor, Andy King, Ben Woodburn a Hal Robson-Kanu.