Sam Vokes
Mae Sam Vokes yn credu’n gryf y bydd carfan brofiadol Chris Coleman yn medru serenu heb Gareth Bale ar y cae yn erbyn Serbia nos Sul.

Fe fydd Sam Vokes yn gweld eisiau ei gyd-ymosodwr ar ôl i hwnnw gael ei wahardd, ond mae’n obeithiol bod yna ddigon o gryfder ar ôl yn y garfan.

“Wrth gwrs, ry’n ni’n mynd i golli Gareth”, meddai, “ond mae yna chwaraewyr da gyda ni sydd wedi ennill lot o gapiau.

“Mae hyn yn bwysig, oherwydd mai profiad sydd ei angen mewn gemau fel yr un nos Sul.”

Hanner canfed cap

Bydd y gêm nos Sul yn garreg filltir i Sam Vokes, ac yntau ar drothwy ennill ei hanner canfed cap dros Gymru, naw mlynedd ers iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad yr Iâ ym Mai 2008.

“Rwy’n cofio fy ymddangosiad cyntaf yn erbyn Gwlad yr Iâ yn dda iawn, ac mae meddwl fy mod i nawr bron â chyrraedd hanner cant o gapiau yn wallgof.

“Yn amlwg, mae yna rai dyddiau tywyll wedi bod, ond mae hi wedi bod yn siwrne anhygoel.”

Bydd Cymru’n herio Serbia nos Sul, 11 Mehefin gyda’r gêm yn cychwyn am 7:45 ac yn cael ei dangos ar S4C.