Rhys Hartley
Mae dros 2,000 o gefnogwyr  Cymru yn heidio i Belgrade, prifddinas Serbia, ar gyfer y gêm ragbrofol nos Sul. Yn ddiweddar mae un cefnogwr selog o Gaerdydd wedi treulio amser yn y wlad yn astudio.

“Mae’n anodd deall y meddylfryd yma ym Melgrad achos natur pêl-droed domestig,” meddai Rhys Hartley.

“Mae’n ymddangos fod gafael dau glwb y brifddinas yn fwy pwysig na llwyddiant y tîm cenedlaethol, gyda chefnogwyr Crvena Zvezda a Partizan yn gwrthwynebu arweinyddiaeth y Gymdeithas Bêl-Droed ac yn galw am brotest neu darfu ar y gêm.

“Ond wrth gwrdd â Serbiaid yn ddyddiol, maen nhw yn ffyddiog o ganlyniad da, ond yn ffocysu arnon ni’n methu Bale. I fod yn deg, ers i Slavoljub Muslin gymryd drosodd fel rheolwr, mae rhyw ffydd a chreêd newydd ymysg y chwaraewyr, ychydig fel Cymru dan Speed.

“Mae Muslin wedi llwyddo i greu balchder dros y wlad ac wedi cael gwared ag unrhyw gymeriadau problematig yn y garfan, ac mae eu canlyniadau yn y grŵp cyn belled yn dangos hyn, heb sôn am y cynnydd o ran chwaraewyr Serbiad ym mhrif gynghreiriau Ewrop.

“Tan nawr, dyw’r ffydd yma heb gael ei drosglwyddo i’r cefnogwyr, gyda thorfeydd sâl yn eu gemau agoriadol yn y grŵp. Ond, ry’n ni’n gwybod sut mae natur cefnogwyr pêl-droed a gyda nhw yn eistedd ar frig y tabl, mae’n debyg y bydd y dorf yn fwy na’r arfer – ond heb yr angerdd sy’n nodweddiadol yn eu gemau domestig, mae gobaith i ni gefnogwyr Cymru fod y deuddegfed dyn i’n bois ni.”

Mae Cymru yn drydydd yn y grŵp ar ôl pum gêm, pedwar pwynt tu ôl i Serbia sydd ar y brig a Gweriniaeth Iwerddon sy’n ail. Mae’r tri thîm dal heb golli gêm yn y grŵp eto. Mae Awstria yn teithio i herio Gweriniaeth Iwerddon b’nawn Sul yn Nulyn.

Y gemau ar ôl Serbia…

2 Medi  2017 Cymru V Awstria

5 Medi 2017 Moldofa V Cymru

6 Hydref 2017 Georgia V Cymru

9 Hydref 2017 Cymru V Gweriniaeth Iwerddon