Mae clwb pêl-droed Hull City wedi penodi Leonid Slutsky yn Brif Hyfforddwr newydd.

Buodd Leonid Slutsky yn hyfforddi tîm cenedlaethol Rwsia am gyfnod, a llwyddodd i ennill y Brif Gynghrair Rwsiaidd dair gwaith gyda chlwb CSKA Moscow.

Ymddiswyddodd cyn-hyfforddwr Hull City, Marco Silva, wedi i’r clwb ddisgyn o’r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf, a bellach mae wedi ymuno â Watford.

“Dw i’n hapus dros ben i fod yn ymuno â Hull City fel Prif Hyfforddwr, a dw i’n edrych ymlaen at yr her o’u harwain yn ôl i’r Uwch Gynghrair,” meddai Leonid Slutsky.

“Dw i’n gwybod yn barod bod y clwb yma yn bwysig ac â nifer o gefnogwyr ffyddlon … a dw i methu aros i ddechrau wythnos nesaf.”