Hal Robson-Kanu
Ni fydd yr ymosodwr Hal Robson-Kanu ar gael ar gyfer y gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2018 yn erbyn Serbia yn Belgrade nos Sul.

Mae gan y chwaraewr 28 oed anaf i’w goes.

Mi fydd chwaraewr 17 blwydd oed Abertawe, Daniel James, yn cymryd ei le.

Mae Ben Woodburn, sydd yn chwarae i Lerpwl, eisoes wedi gorfod tynnu allan o’r trip oherwydd anaf i’w goes.

Gydag ond pum gêm ar ôl mae Cymru yn nhrydydd yng Ngrŵp D tra bod Serbia bedwar pwynt o’u blaenau ar dop y grŵp.

Bydd y cefnwr James Collins a chwaraewyr canol cae Andy King a Jonny Williams hefyd yn colli’r gêm oherwydd anafiadau.

Y garfan fydd yn wynebu Serbia:

Wayne Hennessey, Danny Ward, Owain Fôn Williams, Ben Davies, James Chester, Joe Walsh, Chris Gunter, Jazz Richards, Ashley Williams, Tom Lockyer, Gethin Jones, Joe Allen, Dave Edwards, Tom Lawrence, Emyr Huws Lee Evans, Joe Ledley, Aaron Ramsey, Tom Bradshaw, Sam Vokes, Harry Wilson, Marley Watkins, Daniel James.