Chris Coleman, (llun:Joe Giddens/PA)
Ar ôl dychwelyd o wersyll ymarfer ym Mhortiwgal, mae Chris Coleman wedi dewis y 23 chwaraewr a fydd yn mynd i Belgrad yr wythnos hon ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Serbia ddydd Sul (Mehefin 11).
Mae Cymru yn y trydydd safle yn y grŵp ar ôl pum gêm, pedwar pwynt tu ôl i Serbia sydd ar y brig a Gweriniaeth Iwerddon sy’n ail. Mae’r tri thîm eto i golli gêm yn y grŵp.
Mae Gareth Bale a Neil Taylor wedi’u gwahardd, felly dydyn nhw ar gael.
Mae pum chwaraewr yn y garfan sydd heb ennill eu capiau cyntaf eto sef Joe Walsh (Milton Keynes Dons), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Gethin Jones (Everton), Lee Evans (Wolverhampton Wanderers) ac ymosodwr Lerpwl, Ben Woodburn.
Mae Marley Watkins, Ethan Ampadu a Declan John wedi cael eu gadael allan o’r 26 gwreiddiol aeth i Bortiwgal.
Carfan Cymru
Wayne Hennessey Crystal Palace
Danny Ward Lerpwl Huddersfield Town
Owain Fôn Williams Inverness Caledonian Thistle
Ben Davies Tottenham Hotspur
James Chester Aston Villa
Joe Walsh Milton Keynes Dons
Chris Gunter Reading
Jazz Richards Dinas Caerdydd
Ashley Williams Everton
Tom Lockyer Bristol Rovers
Gethin Jones Everton
Joe Allen Stoke City
David Edwards Wolverhampton Wanderers
Tom Lawrence Caerlyr
Emyr Huws Caerlyr
Lee Evans Wolverhampton Wanderers
Joe Ledley Crystal Palace
Harry Wilson Lerpwl
Aaron Ramsey Arsenal
Hal Robson-Kanu West Bromwich Albion
Tom Bradshaw Barnsley
Sam Vokes Burnley
Ben Woodburn Lerpwl