(llun: Andrew King/CC 2.0)
Mae Caerdydd yn llawn cyffro a phrysurdeb wrth i filoedd o ymwelwyr gyrraedd y ddinas ar gyfer y gêm bêl-droed fwyaf yn ei hanes.

Mae disgwyl 170,000 o ymwelwyr ar gyfer yr ornest rhwng Juventus a Real Madrid yng ngêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr heno.

Mae’r heddlu’n annog y rheini nad oes ganddyn nhw docynnau i beidio â gyrru na defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd y niferoedd o bobl yno.

Mae 2,000 o blismyn ar patrôl ar strydoedd y ddinas, a llawer ohonyn nhw yno o heddluoedd eraill yng Nghymru a Lloegr.

Dylai’r cyhoedd fod ar eu gwyliadwriaeth drwy’r dydd, yn ôl prif gwnstabl cynorthwyol Heddlu De Cymru, Richard Lewis.

“Mae pob heddwas yn llawn sylweddoli’n dasg enfawr o’n blaenau ac yn ymroi i sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr â’r brifddinas yn cael profiad diogel a phleserus,” ychwanegodd.

Mae Rhodfa Lloyd George rhwng y ddinas a’r Bae ymhlith y strydoedd sydd wedi cau i gerbydau, ac mae miloedd o gefnogwyr pêl-droed yn cerdded ar hyd-ddi i lawr i Ŵyl y Pencampwyr yn y Bae.

Mae’r gêm sy’n cychwyn am 7.45 yn Stadiwm Cenedlaethol Cymru heno, a fydd yn llawn i’r ymylon gyda 74,500 o docynnau wedi eu gwerthu.