Craig Harrison (Llun o wefan tnsfc.co.uk)
Mae’r Seintiau Newydd wedi cytuno i ryddhau Craig Harrison o’i gytundeb, wrth iddo gymryd yr awenau yn rheolwr tîm cyntaf Hartlepool yn syth bin.

Mae Craig Harrison yn hanu o ogledd-ddwyrain Lloegr, a fo ydi rheolwr mwyaf llwyddiannus y Seintiau erioed. Mae wedi bod wrth y llyw yng Nghroesoswallt ers pum mlynedd, gan weld y clwb yn ennill Uwch Gynghrair Cymru chwech o weithiau, a chwpan Cymru bedair gwaith, heb sôn am Gwpan Cynghrair Cymru dair gwaith.

“Yn bersonol, dw i eisiau diolch  i Craig am yr holl lwyddiant mae wedi dod i’r clwb dros y pum mlynedd mae wedi bod efo  ni, a dw i’n dymuno pob lwc iddo yn Hartlepool,” meddai cadeirydd y Seintiau, Mike Harris.

Yn y cyfnod dros dro, fe fydd Scott Ruscoe yn symud o’i swydd cynorthwyydd i reoli’r tîm cyntaf, ac fe fydd Steve Evans yn ei gynorthwyo.

Dywedodd cadeirydd Hartlepool, Pam Duxbury, bod y Pools wedi derbyn dros 50 o geisiadau am y swydd, ac y bydd hi’n “dipyn o her” i gael Hartlepool yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed o’r Gyngres.