Chris Coleman (Llun: Joe Giddens/PA)
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru wedi cyhoeddi carfan o 26 o chwaraewyr i fynd i’r gwersyll ymarfer ym Mhortiwgal fis Mehefin, i baratoi ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd ym Melgrade yn erbyn Serbia.

Mae Ethan Ampadu, 16, o Gaerwysg; a chyn-gapten dan-21 Cymru, Gethin Jones; chwaraewr canol cae Wolverhampton Wanderers, Lee Evans, yn y garfan; ynghyd â deuawd Lerpwl, Harry Wilson a Ben Woodburn.

Bydd y garfan yn rhan o wersyll ymarfer yn yr Algarve, fel paratoad ar gyfer gêm allweddol yn Stadion Rajko Mitić ar ddydd Sul, Mehefin 11.

Roedd Cymru wedi defnyddio’r Vale do Lobo i baratoi ar gyfer Euro 2016, ac roedd Chris Coleman yn awyddus i ddychwelyd i’r ardal honno eleni.

Mae Cymru yn drydedd yn eu grŵp ar ôl pum gêm; pedwar pwynt y tu ôl i Serbia sydd ar y brig, ac Iwerddon sy’n ail.

Mi wnaeth Cymru a Serbia gwrdd yn Stadiwm Dinas Caerdydd mis Tachwedd diwethaf gyda Gareth Bale yn rhoi Cymru ar y blaen ac Aleksander Mitrović  yn unioni’r sgôr i sicrhau pwynt i Serbia.

Ar ôl i’r tîm ddychwelyd i Gymru o’r gwersyll ymarfer, fe fydd Chris Coleman yn lleihau’r garfan i 23 ar gyfer y daith  i Belgrade.

Y garfan yn llawn:

Golwyr: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Dannny Ward (Lerpwl – ar fenthyg i Huddersfield Town), Owain Fôn Williams (Inverness Caledonian Thisle).

Amddiffyn: Ben Davies (Tottenham Hotspur), James Chester (Aston Villa), Declan John (Caerdydd), Joe Walsh (MK Dons), Chris Gunter (Reading), Jazz Richards (Caerdydd), Ashley Williams (Everton), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Gethin Jones (Everton), Ethan Ampadu (Caerwysg).

Canol cae: Joe Allen (Stoke City), Dave Edwards (Wolverhampton Wanderers), Tom Lawrence (Leicester City), Emyr Huws (Caerdydd), Lee Evans (Wolverhampton Wanderers), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal).

Ymosod: Marley Watkins (Barnsley), Hal Robson-Kanu (West Bromwich Albion), Tom Bradshaw (Barnsley), Sam Vokes (Burnley), Harry Wilson (Lerpwl), Ben Woodburn (Lerpwl).