Stadiwm y Principality (llun: Andrew King/CC 2.0)
Mae Heddlu De Cymru wedi addo “sicrhau amgylchedd diogel” yn ystod Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd, yn sgil ymosodiad Manceinion neithiwr.

Mewn cynhadledd newyddion prynhawn ma, dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Richard Lewis, bod y llu wedi bod yn “paratoi cynlluniau diogelwch ers misoedd” ac y byddai “mesurau diogelwch yn parhau i gael eu cyflwyno hyd at y digwyddiad” ar 3 Mehefin.

Does dim “bygythiad penodol i’r rhanbarth” meddai Richard Lewis yn dilyn ymosodiad ar Arena Manceinion lle bu farw 22 o bobol, ond mae Heddlu De Cymru yn “adolygu’r trefniadau diogelwch presennol” ac y bydd presenoldeb yr heddlu yn cynyddu mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys llefydd prysur a lleoliadau eiconig yn yr ardal.

Mae hefyd wedi rhybuddio’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus ac i adrodd unrhyw ymddygiad amheus at yr heddlu.

Bydd cerbydau a mynediad i Stadiwm y Principality yn cael eu cyfyngu yn ystod y digwyddiad ar Fehefin 3,  pan fydd Real Madrid yn chwarae yn erbyn Juventus, ac mae’n debyg bydd cefnogwyr yn wynebu “gwiriadau diogelwch trwyadl.”

Bydd Caerdydd hefyd yn cynnal Gŵyl Pencampwyr UEFA rhwng 1 a 4 Mehefin ym Mae Caerdydd a Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr y Merched ar 1 Mehefin yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dywedodd Richard Lewis y bydd 2,000 o blismyn ar ddyletswydd yng Nghaerdydd ar 3 Mehefin a mwy na 6,000 dros y pedwar diwrnod.

Mae Heddlu De Cymru eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i dorri tir newydd trwy ddefnyddio ‘technoleg adnabod wynebau’ neu facial recognition technology yn ystod y bencampwriaeth – y tro cyntaf i dechnoleg o’r fath gael ei ddefnyddio gan lu Prydeinig.

UEFA a’r ICC

Mae UEFA, y sefydliad sydd yn gyfrifol am y Bencampwriaeth, wedi ymateb i’r ymosodiad gan nodi bydd gêm rhwng Manchester United ac Ajax yn cael ei chynnal yn Sweden heno er gwaethaf yr ymosodiad.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stockholm , dinas sydd hefyd wedi profi ymosodiad dinistriol. Bu farw pump o bobol yno ym mis Ebrill wedi i ddyn yrru cerbyd at dorf o bobol.

Mae’r Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu adolygu trefniadau diogelwch ar gyfer Cwpan Pencampwyr yr ICC. Bydd rhai o gemau’r cwpan yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.