Gyda dim ond deg diwrnod i fynd tan y bydd Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA (UWCL) yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd, mae’n debyg bydd y dorf eleni’n rhagori ar y rowndiau  terfynol blaenorol.

Bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn croesawu’r ddau glwb pêl-droed merched gorau yn Ewrop pan fydd Lyon, y pencampwyr presennol, yn wynebu Paris Saint-Germain ar ddydd Iau, Mehefin 1 mewn gêm a ddylai fod yn un penigamp ac yn ddathliad o’r gorau o bêl-droed merched.

Fe welodd torf o ychydig dros 15,000 Lyon yn ennill gornest ciciau o’r smotyn yn erbyn Wolfsburg yn

Reggio Emilia, yr Eidal yn Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA yn 2016 ac mae’r

dorf eleni yng Nghaerdydd yn debygol o fod yn uwch eto.

Gyda dros 15,000 o docynnau wedi’u gwerthu eisoes a’r cyffro’n cynyddu’n ddyddiol, mae gwerthiant tocynnau’n debygol o gynyddu’n sylweddol wrth i’r rownd derfynol agosáu.

Tocynnau

 

Fel rhan o’u hymrwymiad i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael cyfle i wylio rownd derfynol

pêl-droed clwb Ewropeaidd, mae prisiau tocynnau wedi’u cadw mor isel â phosibl (Oedolion – £6/

Plant – £3) gyda gostyngiadau pellach i grwpiau er mwyn hybu clybiau ac ysgolion i deimlo’n rhan o

ddigwyddiad chwaraeon mwyaf Cymru.

Ar ddiwrnod Rownd Terfynol yr UWCL, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi trefnu Gŵyl

Bêl-droed Merched a Genethod Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Gyda dros 1,500 o chwaraewyr

benywaidd wedi’u cofrestru’n barod, dyma’r gystadleuaeth bêl-droed benywaidd mwyaf poblogaidd

erioed i’w chynnal yng Nghymru. Mae pob clwb sy’n cymryd rhan hefyd wedi derbyn cymhorthdal

teithio i annog chwaraewyr o bob cwr o Gymru i gymryd rhan.

“Annog merched ifanc”

Yn ôl Alan Hamer, Cyfarwyddwr Prosiect Pwyllgor Trefnu Lleol Caerdydd 2017: “Rhan allweddol o gynllun strategol CBDC yw tyfu gêm y merched er mwyn cynyddu cyfranogiad ac  ymwybyddiaeth o lwybrau chwaraewr.

“Mae Rownd Derfynol UWCL yn gyfle gwych i ni ymgysylltu â merched ifanc a’u hannog i ddechrau

chwarae pêl-droed.

“Mae poblogrwydd ein gŵyl bêl-droed ar y 1 Mehefin yn dangos y camau cadarnhaol sy’n cael eu

cymryd i ddatblygu pêl-droed merched yng Nghymru. Mae’r dorf sylweddol yn rownd derfynol UWCL 2017 hefyd yn dangos yr awydd cynyddol am y gamp.

“Rydym yn hyderus y bydd safon y pêl-droed yn  creu cryn argraff ar unrhyw un sy’n mynychu’r  rownd derfynol a’u gwneud yn awyddus i wylio a  chwarae pêl-droed eto yn y dyfodol.”

Gŵyl Pencampwyr UEFA

Mae dydd Iau, Mehefin 1 hefyd yn nodi agoriad Gŵyl Pencampwyr UEFA ym Mae Caerdydd. Mae’r Ŵyl, sydd am ddim ac ar agor i’r cyhoedd, wedi dod yn rhan eithriadol o boblogaidd o brofiad Cynghrair Pencampwyr UEFA yn y blynyddoedd diwethaf.

Eleni, i annog hyd yn oed mwy o bobl i fynychu Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA, mae CBDC wedi trefnu bysiau gwennol am ddim rhwng yr Ŵyl a Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer Rownd Terfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA.

Dywed Karen Espelund, cadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Merched UEFA:

“Bydd unrhyw un sy’n mynychu’r rownd derfynol yn cael cyfle i weld dau o’r timau gorau ym mhêl-droed merched yn cystadlu ar y lefel uchaf. Mae’r awyrgylch yn y rownd derfynol bob amser yn gyfeillgar i deuluoedd.

“Rydym i gyd yn  edrych ymlaen at y rownd derfynol eleni. Bob blwyddyn mae’r  safon yn gwella.”