Mae Kevin Nicholson, 31, wedi cael ei benodi’n rheolwr newydd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor.

Mae’n hyfforddwr UEFA proffesiynol gyda dros 10 mlynedd o brofiad hyfforddi ar lefel academi a thimau cyntaf. Mae hefyd gydag enw da a record wych o reoli a datblygu chwaraewyr.

Mae wedi goruchwylio chwaraewyr ifanc talentog ar nifer o lefelau ac wedi gweithio gyda chwaraewyr hyn a rhyngwladol fel hyfforddwr gyda Chaerdydd.

Yn ddiweddar roedd yn gweithio gyda thîm  o dan-23 Caerdydd ac mae wedi gweithio gyda Chaerwysg, Derby a Stoke. Mae ganddo hefyd Wobr Hyfforddi FA Elit a thrwydded A UEFA.

Bydd Kevin Nicholson yn cydweithio gyda Gary Taylor-Fletcher a’r cyfarwyddwr pêl-droed Stephen Vaughan Jr pan  fyddan nhw’n dechrau ar eu  hymgyrch cynghrair Ewrop a thymor Uwch-gynghrair Cymru 2017/18.

Mae’n dilyn y cyhoeddiad ddydd Sadwrn o’r rhestr chwaraewyr fydd yn aros a’r rhai fydd yn gadael Nantporth ar ôl diwedd y tymor.

Dal o dan gytundeb:  Gary Taylor-Fletcher, Damien Allen a Connor Roberts.

Chwaraewyr sydd wedi ymestyn eu cytundebau:  Gary Roberts, Laurence Wilson, Anthony Miley, Paul Connolly, Danny Gosset, Dean Rittenberg, Daniel Nardiello, Sion Edwards, Cai Owen, Rodrigo Branco.

Cytundebau newydd wedi’u cynnig: Henry Jones, Yalany Baio & Matthew Hall.

Wedi’i rhyddhau: Sergio Uyi, Christoph Azimale