Abertawe 2–1 West Brom
Gorffennodd Abertawe’r tymor yn bymthegfed yn Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl trechu West Brom ar y Liberty yng ngêm olaf y tymor ddydd Sul.
Er mai dim ond yr wythnos diwethaf y sicrhaodd yr Elyrch eu bod yn aros yn y gynghrair, fe neidiodd tîm Paul Clement i’r pymthegfed safle yn y tabl wrth i gôl hwyr Llorente gipio’r tri phwynt iddynt ar ddiwrnod olaf y tymor.
Bu rhaid i Abertawe frwydro’n ôl i ennill y gêm wedi i Jonny Evans fanteisio ar gamgymeriad Kristoffer Nordfeldt i benio’r ymwelwyr ar y blaen o gic gornel Darren Fletcher yn yr hanner cyntaf.
Bu rhaid aros tan ddeunaw munud o ddiwedd y naw deg cyn i Jordan Ayew unioni pethau gyda’i gôl gyntaf o’r tymor, yn rhwydo o gic rydd Gylfi Sigurdsson.
Dyn sydd wedi sgorio dipyn mwy a rwydodd y gôl fuddugol bum munud o’r diwedd, y prif sgoriwr, Fernando Llorente, yn ennill y gêm i’w dîm gyda foli daclus, ei bymthegfed gôl o’r tymor.
Mae’r canlyniad yn golygu fod Abertawe’n llamu dros Watford a Burnley i’r pymthegfed safle yn nhabl terfynol yr Uwch Gynghrair, saith pwynt yn glir o safleoedd y gwymp.
.
Abertawe
Tîm: Nordfeldt, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson, Fer (Ki Sung-yueng 8’1), Britton (Nrsingh 66’), Carroll, Ayew (Kingsley 90+3’), Llorente, Sigurdsson
Goliau: Ayew 72’, Llorente 86’
Cerdyn Melyn: Fernandez 90+2’
.
West Brom
Tîm: Foster, Dawson, Evans, Wilson (Leko 90+1’), Nyom, Fletcher, Yacob, Livermore (McClean 79’), Brunt, Morrison (Robson-Kanu 84’), Rondon
Gôl: Evans 33’
Cerdyn Melyn: Wilson 51’
.
Torf: 20,889