Gall pêl-droed wneud mwy o les i hunanhyder merched na champau eraill, yn ôl ymchwil sydd wedi’i gynnal gan gorff llywodraethu pêl-droed Ewropeaidd, UEFA.

Dyma’r ymchwil mwyaf o’i fath erioed i gyflwr seicolegol ac emosiynol merched yn Ewrop, gan roi ystyriaeth i hunanhyder, lles, teimladau o undod, ysgogiad a sgiliau bywyd yn y byd pêl-droed o’u cymharu â champau eraill.

Cafodd data ei gasglu o Ddenmarc, Lloegr, yr Almaen, Sbaen, Portiwgal a Thwrci am 4,128 o ferched 13 oed neu hŷn.

Er bod pêl-droed wedi datblygu i raddau gwahanol ar draws Ewrop, mae’r effaith mae’n ei chael ar ferched ym mhob gwlad yn debyg ar y cyfan.

Casgliadau

Yn ôl yr ymchwil, mae gan ferched sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon fwy o hunanhyder na merched nad ydyn nhw’n ymddiddori mewn chwaraeon.

Ac mae gan ferched sy’n chwarae pêl-droed fwy o hyder na merched sy’n chwarae campau eraill.

Roedd 80% o ferched a gafodd eu holi’n teimlo’n fwy hyderus am eu bod nhw wedi bod yn aelod o dîm neu glwb, o’u cymharu â 74% oedd â theimladau tebyg am gampau eraill.

Roedd 54% o ferched ifanc sy’n chwarae pêl-droed o’r farn eu bod nhw’n gofidio llai am farn pobol eraill amdanyn nhw – 41% o ferched sy’n chwarae campau eraill ddywedodd yr un peth.

Dywedodd 58% o’r merched a gafodd eu holi eu bod nhw wedi goresgyn diffyg hyder o ganlyniad i chwarae pêl-droed – 51% ddywedodd yr un peth am gampau eraill.

Dywedodd 48% o’r merched eu bod nhw’n llai hunanymwybodol am eu bod nhw’n chwarae pêl-droed – 40% oedd y ffigwr ar gyfer campau eraill.

Ymateb

Wrth ymateb i’r ymchwil, dywedodd cynghorydd pêl-droed merched UEFA, Nadine Kessler: “Alla i ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw [chwarae pêl-droed] wrth i chi dyfu i fyny.

“Dw i’n sicr y gallwn ni newid canfyddiadau a’i gwneud yn cŵl i ferched yn eu harddegau chwarae pêl-droed.

“Os llwyddwn ni i wneud hyn, byddwn ni ar ein ffordd i gyflawni ein nod o wneud pêl-droed yn brif gamp i ferched ledled Ewrop.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford: “Ein gwaith ni yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru yw arddangos manteision chwarae pêl-droed, tra hefyd yn hyrwyddo ac yn datblygu’r gêm i ferched yng Nghymru a rhoi’r cyfle iddyn nhw chwarae.”