Ben Woodburn (Llun o wefan clwb pêl-droed Lerpwl)
Mae Rob Page rheolwr canolradd Cymru wedi enwi ei garfan o ugain am y twrnamaint dan-20 oed Toulon ddiwedd mis Mai. Mae wedi cynnwys nifer o chwaraewyr sydd wedi cael amser gwych gyda’u chlybiau, yn cynnwys y profiad o gael chwarae i’w timau cyntaf nhw.

Mae Tyler Roberts wedi cael tymor cadarnhaol ar fenthyg gyda’r Amwythig, tra bod George Thomas wedi chwarae 23 o weithiau i Coventry City, a fo sgoriodd gôl fuddugoliaethus yn rownd derfynol Tlws Checkatrade yn Wembley.

Ond bydd dau chwaraewr amlwg ddim yno, sef Ben Woodburn a Harry Wilson o Lerpwl, felly tybed a fyddan nhw yng ngharfan Chris Coleman ar gyfer y daith i Serbia fis Mehefin?

Bydd chwaraewr Exeter, Ethan Ampadu, yn methu’r daith hefyd oherwydd am ei fod yn rhy ifanc i gael ei gynnwys, ag yntau ond yn 16 oed. Mae Rob Page wedi cadarnhau  bydd cyn gôl geidwad Watford, Alec Chamberlain, yn ymuno â’r tîm hyfforddi a cyn chwaraewr Cymru Paul Bodin fydd yr is-reolwr.

Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Ffrainc yn Stade de Lattre, Aubagne, trwy wynebu’r tîm sydd wedi ennill y twrnamaint ddwsin o weithiau; wedyn Bahrain ar Fehefin 2 yn Stade Parsemain; cyn gorffen y grŵp yn erbyn Y Traeth Ifori ar Fehefin 5.

Carfan Cymru: Lewis Thomas (Abertawe), Luke Pilling (Tranmere Rovers), Cole Dasilva (Chelsea), Cameron Coxe (Caerdydd), Mitchell Clark (Aston Villa), Regan Poole (Manchester United), Aron Davies (Fulham), Rhys Norrington-Davies (Sheffield United), Rhys Abbruzzese (Caerdydd), Joe Rodon (Abertawe), Matthew Smith (Manchester City), Nathan Broadhead (Everton), Jack Evans (Abertawe), David Brooks (Sheffield United), Mark Harris (Caerdydd), Rhyle Ovenden (Watford), Tyler Roberts (West Bromwich Albion), Daniel James (Abertawe), Liam Cullen (Abertawe), George Thomas (Coventry City).