Paul Clement bron â chyflawni'r nod fel rheolwr Abertawe (Llun: golwg360)
Mae gan dîm pêl-droed Abertawe “un droed yn saff” yn Uwch Gynghrair Lloegr, yn ôl y sylwebydd a chyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts.

Bydd yr Elyrch yn ddiogel am dymor arall pe bai Crystal Palace yn curo Hull ar Barc Selhurst yn y gêm sy’n dechrau am 12 o’r gloch heddiw.

Aeth yr Elyrch gam yn nes at ddiogelwch brynhawn ddoe gyda buddugoliaeth o 2-0 oddi cartref yn Sunderland, gyda’r goliau allweddol yn cael eu sgorio gan Fernando Llorente a’r amddiffynnwr Kyle Naughton, ei gôl gyntaf ers chwe blynedd.

‘Angen gwyrth’

Dywedodd Iwan Roberts wrth y BBC fod “angen gwyrth” ar Hull i guro Crystal Palace.

“Mae gynnon nhw [Abertawe] un droed yn saff. Alla’i ddim gweld Hull yn mynd i Barc Selhurst ac ennill.

“Mae angen gwyrth arnyn nhw i aros yn yr Uwch Gynghrair.”

Ond pe bai Hull yn ennill pwynt, byddai’r cyfan yn y fantol unwaith eto, ac yn cael ei benderfynu ar benwythnos ola’r tymor wrth i’r Elyrch wynebu West Brom yn Stadiwm Liberty.