Bangor 1–0 Met Caerdydd            
                                                  

Bydd Bangor yn cystadlu yng Nghynghrair Ewropa’r tymor nesaf ar ôl trechu Met Caerdydd yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Nantporth ddydd Sadwrn.

Dean Rittenberg a sgoriodd unig gôl y gêm wrth i’r Dinasyddion ddychwelyd i Ewrop.

Roedd hi’n gêm gyffrous yn yr hanner awr cyntaf ond prin a oedd cyfleoedd da yn y ddau ben. Gary Taylor-Fletcher a ddaeth agosaf gyda chynnig da wrth y postyn agosaf o gic gornel ond roedd Will Fuller yn ddigon effro yn y gôl i Met.

Newidiodd pethau wedi ychydig dros hanner awr o chwarae pan rwydodd Rittenberg i Fangor, yn canfod y gornel isaf yn dilyn gwaith da Taylor-Fletcher yn curo’i ddyn ar ochr y cwrt cosbi.

Cafodd Eliot Evans gyfle i unioni i’r myfyrwyr yn gynnar yn yr ail gyfnod ond llwyddodd Connor Roberts i arbed ei gynnig.

Roedd Adam Roscow yn meddwl ei fod wedi unioni hanner ffordd trwy’r hanner hefyd ond er iddo roi’r bêl yng nghefn y rhwyd, roedd wedi ei llawio gyntaf.

Yr eilydd, Sion Edwards, a gafodd y cyfle gorau i ddyblu mantais y Dinasyddion ond anelodd yn rhy agos at Fuller.

Ond roedd un gôl yn ddigon i Fangor i sicrhau’r fuddugoliaeth ac ennill eu lle yng Nghynghrair Ewropa’r tymor nesaf.

.

Bangor

Tîm: C. Roberts, G. Roberts, Miley, Connolly, Wilson, Gosset, Allen (Baio 79’), Jackson, Taylor-Fletcher (Edwards 62’), Jones, Riittenberg

Gôl: Rittenberg 32’

Cerdyn Melyn: Connolly 64’

.

Met Caerdydd

Tîm: Fuller, Taylor, Woolridge, Lewis, McCarthy, Barnett (Bowler 62’), E. Evans, W. Evans, Corsby, Roscrow (Howell 85’), Thomas (Lam 45’)

Cerdyn Melyn: Barnett 51’

.

Torf: i ddilyn