Gydag Uwch Gynghrair Cymru yn gorffen yfory, mae Ysgrifennydd y Gynghrair, Gwyn Derfel, yn edrych yn ôl ar y tymor…

Y Seintiau Newydd

“Mae’n rhaid dechrau wrth sôn am y Seintiau Newydd. Tymor bythgofiadwy yn torri record Ajax o 27 buddugoliaeth yn olynol. Maen nhw’n parhau i osod y safon, maen nhw’n chwip o dîm ac mae’r clybiau eraill yn gweithio yn galed i gau’r bwlch, ac roedd hynny yn dangos gyda’r Bala yn ennill Cwpan Cymru.  Roedd hefyd yn wych i weld eu perfformiadau yng Nghwpan IRN- BRU.”

Ewrop yn wobr

“Gan edrych ymlaen at y gêm rownd derfynol ail gyfle [rhwng Met Caerdydd a Bangor], mi wnes i fynychu’r ddwy gêm gynderfynol y penwythnos diwethaf. Roedd yn chwip o gêm ym Mangor a gôl wych i ennill y gêm gan Gary Roberts. Mae Met Caerdydd wedi gwella’n ddiweddar, ac wedi mynd yn fwy corfforol, dw i‘n sicr es iddyn nhw  wybod bod nhw’n saff yn y chwech [safle] uchaf eu bod nhw wedi bod yn arbrofi dipyn hefo’u steil o chwarae, ac yn sicr dros y tymor mae’r tîm hyfforddi a’r chwaraewyr wedi dysgu llawer. Mi fydd yn dipyn o gêm yn Stadiwm Prifysgol Bangor gyda’r wobr o chwarae yn Ewrop. I Fangor, y gobaith fydd cael creu atgofion newydd yn Ewrop ac i Met Caerdydd… wel, creu hanes go-iawn.

Cwpan IRN-BRU

“Roedd y gwpan IRN-BRU yn llwyddiant, ac yn sicr wedi ychwanegu rhywbeth i’r timau a’r gynghrair, hefyd roedd yn rhywbeth arall i’r timau gystadlu amdano, cafodd y gynghrair a’r Seintiau fwy o sylw oherwydd y gwpan.”

Dyrchafiad

“Mae’n allweddol i’r gynghrair a phêl-droed yn gyffredinol bod unrhyw system fyny ac i lawr yn gweithio. Yn ddiweddar mae wedi bod yn gyson, a bydd yn wych tymor nesaf i gael y Barri yn ôl, heb sôn am gyn-enillwyr cwpan Cymru, Prestatyn. Gyda hanes a chefnogaeth y Barri, rwy’n sicr byddan nhw yn dda i’r gynghrair, a gwnaeth eu perfformiadau yng nghwpan Nathaniel MG tymor yma greu argraff ar bawb. Heb os, mae clwb o’r de yn cael dyrchafiad yn rhoi dimensiwn daearyddol da i’r gynghrair, ac mae yn rhaid cofio lle’r oedd y Barri yn ddiweddar, felly mae’n dangos bod unrhyw beth yn bosib gyda gwaith caled. Mae’n bechod bod rhywun yn gorfod gostwng o’r gynghrair ac roedd yn siom i weld y Rhyl ac Airbus yn disgyn. Mae’n rhaid nodi bod Airbus wedi cynrychioli’r gynghrair yn Ewrop dair gwaith yn ddiweddar, y tro diwethaf yn nhymor 2015/16.

“I gloi, mae cytundeb noddi Dafabet yn dod i ben ac rwyf eisiau diolch iddyn nhw am eu cefnogaeth, ac rwyf yn hyderus bydd noddwr newydd mewn lle cyn dechrau tymor 2017/18.”