Mae angladd y cyn bêl-droediwr a hyfforddwr tîm dan 23 Spurs, Ugo Ehiogu wedi’i gynnal yn Highgate yn Llundain.

Bu farw cyn-amddiffynnwr Aston Villa a Middlesbrough o drawiad ar y galon yn 44 oed fis diwethaf.

Cafodd tudalen codi arian ei sefydlu yn ei enw yn dilyn ei farwolaeth ac eisoes, mae mwy na £23,000 wedi cael ei godi – £1,000 oedd y nod yn wreiddiol.

Cafodd y dudalen ei chreu gan ei wraig, Gemma mewn ymgais i ariannu elusen cyfle cyfartal, gan roi cyfle i bobol ifanc o gefndiroedd difreintiedig i gymryd rhan mewn gweithgareddau pêl-droed.

Dywedodd: “Breuddwyd Ugo oedd sefydlu elusen sy’n rhoi cyfle cyfartal i blant gael mynediad a chwarae pêl-droed. Roedd e eisoes wedi dechrau ar y gwaith. Bydd y gronfa hon yn gwireddu ei freuddwyd.”

Mae’r ymdrechion i godi arian wedi’u hysbrydoli gan ei neges olaf ar wefan Twitter ar Fawrth 29, oedd yn dweud ei fod e wedi rhoi £10 i ferch ddigartref.

Mae’r ymgyrch wedi cael cefnogaeth timau pêl-droed Aston Villa, Middlesbrough, Arsenal a Rangers, a nifer o unigolion.