Danny Gosset (Llun: Clwb Pel-droed Bangor)
Fe fydd Stadiwm Prifysgol Bangor yn llawn cyffro brynhawn Sadwrn, gyda’r Dinasyddion yn cwrdd â’r myfyrwyr o goleg Met Caerdydd i weld pwy fydd yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf.

Mae Danny Gosset, y chwaraewr 22 oed o’r Felinheli, yn edrych ymlaen i’r gêm ac yn gobeithio cael y cyfle i chwarae ar y cyfandir am y tro cyntaf yn ei yrfa.

Fe ddechreuodd ei yrfa gydag Oldham Athletic gan chwarae dwy gêm yn y gynghrair yn nhymor 2013/14 a threuliodd weddill y tymor gyda Stockport County gan chwarae 15 gêm.

Roedd sgowt o Oldham wedi sylwi ar ei dalent wrth chwarae’n lleol, ac roedd yn teithio i Oldham bedair gwaith yr wythnos i ymarfer. Ond roedd siom pan gafodd ei ryddhau, a threuliodd gyfnodau rhwystredig gyda’r Rhyl a’r Seintiau Newydd. Ond mae’r tymor hwn wedi bod yn un da i Fangor… ac i Danny Gosset.

Roedd y gêm dydd Sadwrn diwethaf yn erbyn y Drenewydd yn un gyffrous gyda Bangor yn mynd ar y blaen 2-0 yn gynnar yn y gêm, fe wnaethon nhw ildio dwy gôl cyn cipio buddugoliaeth efo chwip o gic rydd (a dadleuol) ar ôl 75 munud.

“Rydan ond hanner ffordd, a bydd gêm dydd Sadwrn yn erbyn Met Caerdydd yn enfawr,” meddai Danny Gosset wrth golwg360.

“Bydd torf dda yn y cae, bydd yn gêm agored ac mae’n rhaid cofio bod Met yn dîm fit ac maen nhw’n ymarfer gyda’i gilydd drwy’r wythnos, eto ar ein diwrnod gall Bangor guro rhywun yn y gynghrair. Hefyd dw i’n gobeithio ein bod ni gartref yn helpu a bydd y crowd fel y 12th man.

“Yn bersonol mae wedi bod yn dymor da i fi, y gobaith oedd cael chwarae’n aml a chyson, a dw i wedi chwarae dros 30 gêm tymor yma yn ganol cae, ac wedi cadw fy lle gyda’r tri rheolwr gwahanol yn ystod y tymor.

“Mae Andy Legg, Ian Dawes a rheolwr rŵan Gary Taylor-Fletcher yn broffesiynol. Mae agwedd Taylor-Fletcher oddi ac ar y cae yn wych, rydan i gyd yn edrych i fyny ato fo oherwydd ei brofiad a’i gymeriad. Gobeithio y cawn ni ganlyniad positif dydd Sadwrn, buasai’n wych  i chwarae’n Ewrop i mi yn bersonol ac i’r clwb.”

Mae’r gêm yn fyw ar S4C ddydd Sadwrn, a’r gic gyntaf am 5.15yp.