Michael Flynn
Ddyddiau wedi i Gasnewydd sicrhau eu lle yn y Gynghrair, mae’r clwb wedi cadarnhau mai Michael Flynn yw rheolwr y tîm gyntaf a’i fod yn dechrau ar y gwaith yn syth.

Mae Michael Flynn wedi bod yn rheoli dros dro ers i Graham Westley adael ym mis Mawrth. Bydd ganddo amser i adeiladu ei garfan dros yr haf ar gyfer tymor 2017/18, gyda’r bwriad o roi’r hunllef y naw mis diwethaf tu cefn i’r clwb.

Dywedodd Gavin Foxall, llefarydd ar ran y clwb: “Mae Michael  wedi gwneud ein penderfyniad ni, fel bwrdd, yn un rhwydd. O’r dechrau mae wedi creu argraff. Mewn cyfnod byr, mae ei record yn rheoli wedi bod yn rhyfeddol.”

Roedd y cefnogwyr wedi troi allan yn eu miloedd ddydd Sadwrn gyda thorf o dros 7000, ac mae’r cefnogwr, Idris Charles, yn sicr mai penodi Flynn yn benderfyniad doeth.

“Dyma gyhoeddiad call a doeth, meddai wrth golwg360: “Mi fydd pawb, a dwi’n golygu pawb sy’n gysylltiedig â’r clwb yn cytuno Flynn ydi’r unig ddewis.

“Dyma ddyn sydd yn caru’r clwb yn angerddol, fe wnaiff bopeth yn ei allu i ddod a llwyddiant i’r clwb… er dydi angerdd, ynddo’i hun, ddim yn ddigon, maen rhaid wrth sgiliau cyfathrebu gyda’r chwaraewyr, yn ogystal â gwybodaeth drwyadl o’r gêm.”

“Balch”

Mae Michael Flynn wrth ei fodd gyda’r penderfyniad: “Rwy’n falch iawn i gael fy mhenodi,” meddai. “Does dim yn fy ngwneud i’n falchach na chael cymryd y swydd. Doedd hi ddim yn gyfrinach fy mod i eisiau’r swydd.

“Dw i ddim eisiau i’r clwb fod yn yr un sefyllfa eto. Yr her nawr yw ceisio mynd â’r clwb yn ei flaen gyda chymorth Wayne Hatswell a Lennie Lawrence.

“Mae’r cefnogwyr wedi cael amser called yn ddiweddar, rydan ni eisiau i’r stadiwm fod yn llawn bob gêm, a gobeithio bydd dyfodol gwell ar y gorwel iddyn nhw.”