Paul Clement (Llun: golwg360)
Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi talu teyrnged i’w chwaraewyr a’r cefnogwyr ar ôl y fuddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Everton yn Stadiwm Liberty neithiwr.

Mae’r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch wedi codi allan o’r tri safle isaf gyda dwy gêm yn weddill o’r tymor, gan gadw eu gobeithion o aros yn yr Uwch Gynghrair yn fyw.

Sicrhaodd gôl y Sbaenwr Fernando Llorente ar ôl 29 munud fod y Cymry’n curo Everton gartref yn y gynghrair am y tro cyntaf erioed.

Mae’r Elyrch bellach wedi cipio saith pwynt allan o naw, ac mae ganddyn nhw gemau yn erbyn Sunderland a West Brom yn weddill.

Dywedodd Paul Clement: “Mae’n fuddugoliaeth wych i ni ar yr adeg yma yn y tymor pan fo’r wobr mor fawr.

“Ro’n i’n hyderus ar drothwy’r gêm yn seiliedig ar ein perfformiadau yn erbyn Stoke a Manchester United.

“Yn dod yn ôl yma, roedd gen i deimlad y byddai awyrgylch da ac roedd ein cefnogwyr ni’n anhygoel heddiw. Roedd y ffordd y gwnaethon nhw gefnogi’r chwaraewyr yn wych.”

Dywedodd mai “penderfyniad, ysbryd a dyfalbarhad” oedd wedi sicrhau’r fuddugoliaeth i’w dîm.

Talu am 3,000 o docynnau

Mae Paul Clement hefyd wedi canmol ei chwaraewyr am benderfynu prynu 3,000 o docynnau ar gyfer y daith i Sunderland er mwyn sicrhau bod y cefnogwyr yn gallu teithio yno’n rhad ac am ddim.

“Syniad y capten, Leon [Britton] oedd hwnnw, a dw i’n meddwl ei fod e’n syniad gwych.

“Mae’n drueni na allwn ni ddod â phawb oedd gyda ni heddiw, oherwydd byddai hynny’n help mawr.”