Casnewydd 2–1 Notts County     
                                                  

Cadwodd Casnewydd eu lle yn yr Ail Adran diolch i gôl hwyr Mark O’Brien ar Rodney Parade nos Sadwrn.

Dechreuodd yr Alltudion y gêm yn erbyn Notts County un safle a dau bwynt yn glir o safleoedd y gwymp. Ond â’r sgôr yn gyfartal gyda munud o’r naw deg yn weddill a Hartlepool yn ennill gartref yn erbyn Doncaster roedd Casnewydd wedi llithro’n nôl i’r ddau isaf ar wahaniaeth goliau.

Roedd angen gôl O’Brien arnynt felly i sicrhau dihangfa hwyr ddramatig.

Roedd popeth yn mynd yn iawn i Gasnewydd ar yr egwyl diolch i gic o’r smotyn Mickey Demetriou yn dilyn trosedd Haydn Hollis ar Lenell John-Lewis.

Dechreuodd pethau newid pan unionodd Jorge Grant i Notts County ar yr awr ac aeth pethau o ddrwg i waeth wrth i’r newyddion fod Hartlepool ar y blaen dreiddio i Rodney Parade.

Rhoddodd hynny Hartlepool yn ddiogel ar wahaniaeth goliau am ychydig funudau cyn i gôl hwyr O’Brien achub y dydd i Gasnewydd.

Dyma oedd diweddglo dihangfa anhygoel i’r Alltudion. Roeddynt ar waelod yr Ail Adran, un pwynt ar ddeg i ffwrdd o ddioglewch pan gymerodd Mike Flynn yr awenau gyda deuddeg gêm yn weddill. Enillodd y rheolwr newydd saith o’r deuddeg gêm hynny i gadw Casnewydd yn y gynghrair.

Mae’r canlyniad yn golygu mai tymor yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr fydd yn aros Craig Harrison os fydd yn gadael y Seintiau Newydd i reoli’r tîm o fro ei febyd dros yr haf.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Bennett, O’Brien, Demetriou, Pipe, Labadie, Randall (Rigg 72’), Owen-Evans, Butler, Bird, Joh-Lewis (Jackson 72’)

Goliau: Demetriou [c.o.s.] 32’, O’Brien 89’

Cerdyn Melyn: Labadie 77’

.

Notts County

Tîm: Collin, Clackstone, Hollis, Duffy, Dickinson (Bola 58’), Howes (Smith 58’), Milsom, Hewitt, Grant, Stead, Ameobi

Gôl: Grant 61’

Cerdyn Melyn: Smith 73’