Abertawe 1–0 Everton
Cododd Abertawe allan o dri isaf Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth dros Everton ar y Liberty nos Sadwrn.
Mae tynged yr Elyrch bellach yn eu dwylo eu hunain wedi i gôl Fernando Llorente sicrhau’r tri phwynt yn ne Cymru ar yr un diwrnod ag y collodd Hull yn erbyn Sunderland.
Daeth unig gôl y gêm wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae pan beniodd Llorente ei dîm ar y blaen yn dilyn gwaith da Jordan Ayew ar y dde.
Daeth Alfie Mawson a Leroy Fer yn agos at ddyblu mantais y Cymry ond roedd un gôl yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol iddynt.
Aeth pob canlyniad tua’r gwaelodion o blaid yr Elyrch ddydd Sadwrn. Cyn iddynt gicio pêl roedd Hull eisoes wedi colli gartref yn erbyn Sunderland ac felly hefyd Crystal Palace oddi cartref ym Man City.
O ganlyniad, mae tîm Paul Clement yn codi i’r ail safle ar bymtheg yn y tabl gyda dwy gêm yn weddill, bwynt uwch ben Hull a thri phwynt y tu ôl i Palace.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Mawson, Olsson, Ki Sung-yueng (Fer 75’), Britton (Cork 73’), Sigurdsson, Carroll, Ayew, Llorente (Baston 87’)
Gôl: Llorente 29’
.
Everton
Tîm: Stekelenburg, Holgate (Kenny 78’), Jagielka, Williams, Baines, Gueye, Barry (Valencia 65’), Davies, Mirallas, Lukaku, Calvert-Lewin (Barkley 45’)
.
Torf: 20,827