Bydd ail gêm y penwythnos i frwydro am le yn ffeinal gemau ail-gyfle Uwch Gynghrair Cymru yn cael ei chwarae brynhawn Sul yn Stadiwm Cymru Tyres.

Bydd Caerfyrddin yn croesawu’r myfyrwyr o Gaerdydd i’r dre’, ond fe bois y gorllewin yn ymwybodol fod y myfyrwyr o’r brifddinas wedi trechu’r ‘Old Gold’ o bedair gol i ddim yn ddiweddar.

Mae Gareth Jones, Rheolwr Cyffredinol clwb pel-droed Caerfyrddin, yn dweud na fydd hynny’n cael dim effaith.

“Gêm gwpan yw hon,” meddai wrth golwg360, “ac fe all unrhywbeth ddigwydd. Fe fydd y tim rheoli wedi dysgu o’r gweir honno.

“Ar ddechrau’r tymor, ein nod ni oedd gorffen yn y chweched uchaf, bonws yw Ewrop. Mae mynd drwodd yn werth llawer o arian, digon i gadw clwb fel ni i fynd am flynyddoedd a chryfhau’r garfan. Roedd y profiad yn erbyn SK Brann ddeng mlynedd yn ol yn un gwych, er inni golli, mae’n rhoi blas mwy i chi.”

Dipyn o gêm

Mae’n rhaid cofio mai Caerfyrddin oedd y tîm cyntaf i guro’r Seintiau y tymor hwn, a gyda Met Caerdydd yn llygadu Ewrop ar ôl tymor annisgwyl o wych, mae gobaith am dipyn o gêm.

Ar ddechrau’r tymor doedd neb yn gwybod dim am Met Gaerdydd, a doedd ganddyn nhw ddim llawer o obaith i aros yn Uwch Gynghrair Cymru. Ond, wyth mis yn ddiweddarach, maen nhw’n  chwarae am y cyfle i chwarae’n Ewrop.

Mae’r gêm yn fyw ar S4C ddydd Sul, a’r gic gyntaf am 2.15yp.