Osian Roberts
Fe fydd rheolwr cynorthwyol tim pel-droed Cymru yn derbyn tair anrhydedd o fewn ychydig wythnosau yr haf hwn.
Fe ddaeth cyhoeddiad fore Gwener (Mai 5) gan Brifysgol Bangor yn dweud y bydd yr hyfforddwr sy’n enedigol o bentref Bodffordd ger Llangefni ym Mon, yn cael Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan y coleg am ei wasanaeth i chwaraeon.
Cwta fis yn ol, yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth ar Ebrill 8, fe gyhoeddwyd mai Osian Roberts fyddai Llywydd y brifwyl pan fydd yn cael ei chynnal ger Bodedern ym Mon yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.
A ddydd Iau yr wythnos hon, fe gyhoeddodd Gorsedd y Beirdd y bydd Osian Roberts, ynghyd â swyddog cyhoeddusrwydd Cymdeithas Bel-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, yn cael eu derbyn i’r wisg las gan yr Archdderwydd Geraint Llifon.