Dean Keates, rheolwr Wrecsam (Llun o wefan y clwb)
Mae rheolwr Wrecsam, Dean Keates, wedi bod yn siarad â’i garfan heddiw, ac ar ôl penderfyniadau “anodd iawn” mae’r clwb wedi cyhoeddi pa chwaraewyr maen nhw’n eu cadw at y tymor nesaf.

Cadw – (cytundebau newydd wedi’u cynnig):

Chris Dunn
Russell Penn
a
Mark Carrington – wedi arwyddo cytundeb newydd
Paul Rutherford – wedi derbyn cynnig cytundeb newydd

Dim  cytundeb newydd:
Iffy Allen
Khaellem Bailey-Nicholls
Anthony Barry
Rob Evans
Shwan Jalal
Izale McLeod
Callum Powell
Martin Riley
Jordan White

Mae Curtis Tilt, Hamza Bencherif a John Rooney dal allan ar fenthyg ond wedi dweud na fyddan nhw’n dychwelyd y tymor nesaf.

Mae’r clwb eisiau siarad â James Jennings am ymestyn ei gyfnod gyda’r clwb, ond mae o ar hyn o bryd o dan gytundeb â’i glwb Cheltenham.

Hefyd mae Olly Marx wedi ymuno â Leo Smith sydd wedi cael ei enwebu yn chwaraewr ifanc y flwyddyn gan y clwb yn cael cynnig cytundeb proffesiynol am 2017/18, ar ôl chwarae mewn saith o’r wyth gêm ddiwethaf.

Mae’r chwaraewr canol cae lleol Rob Evans yn cael ei ryddhau, ac mae o wedi bod â’r clwb ers yn wyth oed. Mae o wedi bod yn trydaru prynhawn ma’ i ddiolch i’r cefnogwyr a’r clwb am eu cefnogaeth a dymuno pob lwc iddyn nhw.