Y Bala 2–1 Y Seintiau Newydd       
                                               

Tarodd y Bala nôl i guro’r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru ym Mangor brynhawn Sul.

Rhoddodd Greg Draper y deiliaid ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner yn Nantporth ond brwydrodd y Bala nôl i gipio’r cwpan gyda dwy gôl Kieran Smith.

Hanner Cyntaf

Y Seintiau a ddechreuodd orau a bu rhaid i Ashley Morris fod yn effro yn y gôl i’r Bala i arbed cynigion Jamie Mullan a Jon Routledge yn y deg munud cyntaf.

Daeth y Bala fwyfwy i’r gêm wedi hynny a bu rhaid i Paul Harrison wneud arbediad da yn isel i’w chwith i atal cynnig da gan Lee Hunt.

Daeth arbediad gorau’r hanner serch hynny yn y pen arall hanner ffordd trwy’r hanner pan adweithiodd Morris yn dda i gael llaw at beniad Greg Draper.

Ail Hanner

Patrwm tebyg a oedd i’r ail hanner wrth i’r Seintiau ddechrau orau wedi’r egwyl.

Bu bron i Chris Marriott eu rhoi ar y blaen pan darodd ei gic rydd y trawst ac o fewn eiliadau roedd Draper wedi sgorio’r gôl agoriadol.

Gwyrodd Morris ergyd wan Connell Rawlinson yn syth i lwybr Steve Saunders a sgwariodd yntau’r bêl ar draws y cwrt chwech i roi’r gôl ar blât i Draper.

Gwnaeth Morris yn iawn am ei gamgymeriad wrth atal Jamie Mullan rhag dyblu mantais y Seintiau a chadw’r Bala yn y gêm gydag ugain munud yn weddill.

A manteisiodd tîm Colin Caton yn llawn gan unioni’r sgôr yn erbyn llif y chwarae pan wyrodd ergyd Joran Evans oddi ar gefn Smith i gefn y rhwyd.

Yna, gyda’r gêm yn anelu at amser ychwanegol fe gipiodd Smith y cwpan i’w dîm gyda pheniad da o groesiad gwych Chris Venables.

Bu rhaid iddynt amddiffyn yn ddewr am ychydig funudau wedi hynny ond daliodd y Bala eu gafael i godi Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn hanes y clwb.

.

Y Bala

Tîm: Morris, Irving, S. J. Jones, S. Jones, Thompson, Burke, Stephens, Smith, Venables, Sheridan (Wade 71’), Hunt (Evans 65’)

Goliau: Smith 77’, 85’

Cerdyn Melyn: Thompson 68’

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Rawlinson, Saunders, Marriott, Edwards, Routledge, Cieslewicz, Brobbel (Darlington 88’), Mullan (Seargeant 88’), Draper (Quigley 74’)

Gôl: Draper 55’

Cardiau Melyn: Saunders 33’, Routledge 90+3’

.

Torf:  1,110